Llyfr Genesis 37:9
¶ Hefyd efe a freuddwydiodd etto freuddwyd arall, ac a’i mynegodd i’w frodyr, ac a ddywedodd, Wele, breuddwydiais freuddwyd etto; ac wele, yr haul, a’r lleuad, a’r un seren ar ddeg, yn ymgrymmu i mi.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 20:3Yna y daeth Duw at Abimelech, noswaith, mewn breuddwyd, ac a ddywedodd wrtho, Wele, dyn marw wyt ti am y wraig a gymmeraist, a hithau yn berchen gwr.
Genesis 37:10Ac efe a’i mynegodd i’w dad, ac i’w frodyr. A’i dad a feiodd arno, ac a ddywedodd wrtho, Pa freuddwyd yw hwn a freuddwydiaist ti? Ai gan ddyfod y deuwn ni, mi, a’th fam, a’th frodyr, i ymgrymmu i lawr i ti?
Genesis 41:32Hefyd am ddyblu y breuddwyd i Pharaoh ddwywaith, hynny a fu oblegid sicrhâu y peth gan Dduw, a bod Duw yn brysio i’w wneuthur.
Genesis 43:26¶ Pan ddaeth Joseph i’r tŷ, hwythau a ddygasant iddo ef yr anrheg oedd ganddynt i’r tŷ, ac a ymgrymmasant iddo ef hyd lawr.
Genesis 44:14¶ A daeth Judah a’i frodyr i dŷ Joseph, ac efe etto yno; ac a syrthiasant i lawr ger ei fron ef.
Genesis 45:9Brysiwch, ac ewch i fynu at fy nhad, a dywedwch wrtho, Fel hyn y dywed dy fab Joseph: Duw a’m gosododd i yn arglwydd ar yr holl Aipht: tyred i waered attaf; nac oeda: