The Bible Software
Llyfr Genesis · Beibl (1620)

Llyfr Genesis 39

1a Duw gyd âg ef yno. A Joseph a ddygwyd i waered i’r Aipht: a Putiphar yr Aiphtwr, tywysog Pharaoh a’i ddistain, a’i prynodd ef o law yr Ismaeliaid, y rhai a’i dygasant ef i waered yno.

2Ac yr oedd yr Arglwydd gyd â Joseph, ac efe oedd wr llwyddiannus: ac yr oedd efe yn nhŷ ei feistr yr Aiphtiad.

3A’i feistr a welodd fod yr Arglwydd gyd âg ef, a bod yr Arglwydd yn llwyddo yn ei law ef yr hyn oll a wnelai efe.

4A Joseph a gafodd ffafr yn ei olwg ef, ac a’i gwasanaethodd ef: yntau a’i gwnaeth ef yn olygwr ar ei dŷ, ac a roddes yr hyn oll oedd eiddo dan ei law ef.

5Ac er pan wnaethai efe ef yn olygwr ar ei dŷ, ac ar yr hyn oll oedd eiddo, bu i’r Arglwydd fendithio tŷ yr Aiphtiad, er mwyn Joseph: ac yr oedd bendith yr Arglwydd ar yr hyn oll oedd eiddo ef, yn y tŷ, ac yn y maes.

6Ac efe a adawodd yr hyn oll oedd ganddo dan law Joseph; ac ni wyddai oddi wrth ddim a’r a oedd gyd âg ef, oddi eithr y bwyd yr oedd efe yn ei fwytta: Joseph hefyd oedd dêg o bryd, a glân yr olwg.

7¶ A darfu wedi y pethau hynny, i wraig ei feistr ef ddyrchafu ei golwg ar Joseph, a dywedyd, Gorwedd gyd â mi.

8Yntau a wrthododd, ac a ddywedodd wrth wraig ei feistr, Wele, fy meistr ni ŵyr pa beth sydd gyd â mi yn y tŷ; rhoddes hefyd yr hyn oll sydd eiddo dan fy llaw i.

9Nid oes neb fwy yn y tŷ hwn na myfi; ac ni waharddodd efe ddim rhagof onid tydi; oblegid ei wraig ef wyt ti: pa fodd, gan hynny, y gallaf wneuthur y mawr-ddrwg hwn, a phechu yn erbyn Duw!

10A bu, fel yr oedd hi yn dywedyd wrth Joseph beunydd, ac yntau heb wrandaw arni hi, i orwedd yn ei hymyl hi, neu i fod gyd â hi.

11A bu, ynghylch yr amser hwnnw, i Joseph ddyfod i’r tŷ, i wneuthur ei orchwyl; ac nid oedd yr un o ddynion y tŷ yno yn tŷ.

12Hithau a’i daliodd ef erbyn ei wisg, gan ddywedyd, Gorwedd gyd â mi. Yntau a adawodd ei wisg yn ei llaw hi, ac a ffodd, ac a aeth allan.

13A phan welodd hi adael o hono ef ei wisg yn ei llaw hi, a ffoi o hono allan;

14Yna hi a alwodd ar ddynion ei thŷ, ac a draethodd wrthynt, gan ddywedyd, Gwelwch, efe a ddug i ni Hebrëwr i’n gwaradwyddo: daeth attaf fi i orwedd gyd â myfi, minnau a waeddais â llef uchel;

15A phan glywodd efe ddyrchafu o honof fi fy llef, a gweiddi, yna efe a adawodd ei wisg yn fy ymyl i, ac a ffodd, ac a aeth allan.

16A hi a osododd ei wisg ef yn ei hymyl, hyd oni ddaeth ei feistr ef adref.

17A hi a lefarodd wrtho yn y modd hwn, gan ddywedyd, Yr Hebrëwas, yr hwn a ddygaist i ni, a ddaeth attaf i’m gwaradwyddo;

18Ond pan ddyrchefais fy llef, a gweiddi, yna efe a adawodd ei wisg yn fy ymyl, ac a ffodd allan.

19A phan glybu ei feistr ef eiriau ei wraig, y rhai a lefarodd hi wrtho ef, gan ddywedyd, Yn y modd hwn y gwnaeth dy was di i mi, yna yr ennynodd ei lid ef.

20A meistr Joseph a’i cymerth ef, ac a’i rhoddes yn y carchardy, yn y lle yr oedd carcharion y brenhin yn rhwym. Ac yno y bu efe yn y carchardy.

21¶ Ond yr Arglwydd oedd gyd â Joseph, ac a ddangosodd iddo ef drugaredd, ac a roddes ffafr iddo y’ngolwg pennaeth y carchardy.

22A phennaeth y carchardy a roddes dan law Joseph yr holl garcharorion y rhai oedd yn y carchardy; a pha beth bynnag a wnaent yno, efe oedd yn ei wneuthur.

23Nid oedd pennaeth y carchardy yn edrych am ddim oll a’r a oedd dan ei law ef, am fod yr Arglwydd gyd âg ef; a’r hyn a wnai efe, yr Arglwydd a’i llwyddai.

← Llyfr Genesis 38Read In The App, Free →Llyfr Genesis 40 →

Study Llyfr Genesis 39

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

1234567891011121314151617181920212223242526272829303132333435363738394041424344454647484950