Llyfr Genesis 4:14
Wele, gyrraist fi heddyw oddi ar wyneb y ddaear, ac o’th ŵydd di y’m cuddir: gwibiad hefyd a chrwydriad fyddaf ar y ddaear; a phwy bynnag a’m caffo a’m lladd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
13Yna y dywedodd Cain wrth yr Arglwydd, Mwy yw fy anwiredd nag y gellir ei faddeu.
Cross References
Genesis 9:5Ac yn ddïau gwaed eich einioes chwithau hefyd a ofynaf fi: o law pob bwystfil y gofynaf ef; ac o law dyn, o law pob brawd iddo y gofynaf einioes dyn.
Leviticus 26:36A’r hyn a weddillir o honoch, dygaf lesgedd ar eu calonnau yn nhir eu gelynion; a thrwst deilen yn ysgwyd a’u herlid hwynt; a ffoant fel ffoi rhag cleddyf; a syrthiant hefyd heb neb yn eu herlid.
Numbers 35:19Dïalydd y gwaed a ladd y llawruddiog: pan gyfarfyddo âg ef, efe a’i lladd ef.
Numbers 35:27A’i gael o ddïalydd y gwaed all an o derfyn dinas ei noddfa, a lladd o ddïalydd y gwaed y llofrudd; na rodder hawl gwaed yn ei erbyn:
2 Samuel 14:7Ac wele, yr holl dylwyth a gyfododd yn erbyn dy lawforwyn, a hwy a ddywedasant, Dyro yr hwn a drawodd ei frawd, fel y lladdom ni ef, am einioes ei frawd a laddodd efe; ac y difethom hefyd yr etifedd: felly y diffoddent fy marworyn, yr hwn a adawyd, heb adael i’m gŵr nac enw nac epil ar wyneb y ddaear.
Job 21:14Dywedant hefyd wrth DDUW, Cilia oddi wrthym; canys nid ydym yn chwennych gwybod dy ffyrdd.