Llyfr Genesis 40:19
O fewn tri diwrnod etto y cymmer Pharaoh dy ben di oddi arnat, ac a’th groga di ar bren; a’r ehediaid a fwyttânt dy gnawd di oddi am danat.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
18A Joseph a attebodd ac a ddywedodd, Dyma ei ddehongliad ef. Tri diwrnod yw y tri chawell.
Cross References
Genesis 40:13O fewn tri diwrnod etto Pharaoh a ddyrchafa dy ben di, ac a’th rydd di eilwaith yn dy le; a rhoddi gwppan Pharaoh yn ei law ef, fel y buost arferol yn y cyntaf, pan oeddyt drulliad iddo.
Genesis 40:22A’r pen-pobydd a grogodd efe, fel y dehonglasai Joseph iddynt hwy.
Deuteronomy 21:22¶ Ac o bydd mewn gwr bechod yn haeddu barnedigaeth angau, a’i farwolaethu, a chrogi o honot ef wrth bren;
Joshua 10:26Ac wedi hyn Josua a’u tarawodd hwynt, ac a’u rhoddodd i farwolaeth, ac a’u crogodd hwynt ar bùm pren: a buant y’nghrog ar y prennau hyd yr hwyr.
1 Samuel 17:46Y dydd hwn y dyry yr ARGLWYDD dydi yn fy llaw i, a mi a’th drawaf di, ac a gymeraf ymaith dy ben oddi arnat; ac a roddaf gelanedd gwersyll y Philistiaid y dydd hwn i ehediaid y nefoedd, ac i lwystfilod y ddaear; fel y gwypo yr holl ddaear fod Duw yn Israel. º
2 Samuel 21:10A Rispa merch Aia a gymerth sachliain, a hi a’i hestynnodd ef iddi ar y graig, o ddechrau y cynhaeaf nes diferu dwfr arnynt hwy o’r nefoedd, ac ni adawodd hi i ehediaid y nefoedd orffwys arnynt hwy y dydd, na bwystfil y maes liw nos. º