Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 21:10
A Rispa merch Aia a gymerth sachliain, a hi a’i hestynnodd ef iddi ar y graig, o ddechrau y cynhaeaf nes diferu dwfr arnynt hwy o’r nefoedd, ac ni adawodd hi i ehediaid y nefoedd orffwys arnynt hwy y dydd, na bwystfil y maes liw nos. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
11A mynegwyd i Dafydd yr hyn a wnaethai Rispa merch Aia, gordderchwraig Saul. º
Read all of Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 21
Cross References
Genesis 40:19O fewn tri diwrnod etto y cymmer Pharaoh dy ben di oddi arnat, ac a’th groga di ar bren; a’r ehediaid a fwyttânt dy gnawd di oddi am danat.
Deuteronomy 21:13A dïosged ddillad ei chaethiwed oddi am dani, a thriged yn dy dŷ di, ac wyled am ei thad a’i mam fis o ddyddiau: ac wedi hynny yr âi di atti, ac y byddi wr iddi, a hithau fydd wraig i ti.
Deuteronomy 21:23Na thriged ei gelain dros nos wrth y pren, ond gan gladdu ti a’i cleddi ef o fewn y dydd hwnnw; o herwydd melldith Dduw sydd i’r hwn a grogir: ac na haloga dy dir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth.
2 Samuel 3:7Ond i Saul y buasai ordderchwraig a’i henw Rispa, merch Aia: ac Isboseth a ddywedodd wrth Abner, Paham yr aethost i mewn at ordderchwraig fy nhad?
1 Kings 18:41Ac Eleias a ddywedodd wrth Ahab, ©os i fyny, bwyta ac yf, canys wele drwst llawcr o law. º
Jeremiah 5:24Ac ni ddywedant yn eu calon, Ofnwn weithian yr ARGLWYDD ein Duw, yr hwn sydd yn rhoi’r glaw cynnar a’r diweddar yn ei amser: efe a geidw i ni ddefodol wythnosau y cynhaeaf.