Llyfr Genesis 44:1
Ufudd ddeisyfiad Judah at Joseph. Ac efe a orchymynodd i’r hwn oedd olygwr ar ei dŷ ef, gan ddywedyd, Llanw sachau y gwŷr o fwyd, cymmaint ag a allant ei ddwyn, a dod arian pob un y’ngenau ei sach.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 24:2A dywedodd Abraham wrth ei was hynaf yn ei dŷ, yr hwn oedd yn llywodraethu ar yr hyn oll a’r a oedd ganddo, Gosod, attolwg, dy law dan fy morddwyd:
Genesis 42:35¶ Fel yr oeddynt hwy yn tywallt eu sachau, yna wele godaid arian pob un yn ei sach: a phan welsant y codau arian, hwynt-hwy a’u tad, ofni a wnaethant.
Genesis 43:16A Joseph a ganfu Benjamin gyd â hwynt; ac a ddywedodd wrth yr hwn oedd olygwr ar ei dŷ, Dwg y gwŷr hyn i’r tŷ, a lladd laddfa, ac arlwya: oblegid y gwŷr a gânt fwytta gyd â myfi ar hanner dydd.
Isaiah 3:1Canys wele, yr Arglwydd, ARGLWYDD y lluoedd, a dynn ymaith o Jerwsalem, ac o Jwda, y gynhaliaeth a’r ffon, holl gynhaliaeth bara, a holl gynhaliaeth dwfr,