Llyfr Genesis 44
1Ufudd ddeisyfiad Judah at Joseph. Ac efe a orchymynodd i’r hwn oedd olygwr ar ei dŷ ef, gan ddywedyd, Llanw sachau y gwŷr o fwyd, cymmaint ag a allant ei ddwyn, a dod arian pob un y’ngenau ei sach.
2A dod fy nghwppan fy hun, sef y cwppan arian, y’ngenau sach yr ieuangaf, gyd âg arian ei ŷd ef. Yntau a wnaeth yn ol gair Joseph, yr hwn a ddywedasai efe.
3Y bore a oleuodd, a’r gwŷr a ollyngwyd ymaith, hwynt a’u hasynod.
4Hwythau a aethant allan o’r ddinas. Ac nid aethant neppell, pan ddywedodd Joseph wrth yr hwn oedd olygwr ar ei dŷ, Cyfod, a dilyn ar ol y gwŷr: a phan oddiweddech hwynt, dywed wrthynt, Paham y talasoch ddrwg am dda?
5Onid dyma y cwppan yr yfai fy arglwydd ynddo, ac yr arferai ddewiniaeth wrtho? Drwg y gwnaethoch yr hyn a wnaethoch.
6¶ Yntau a’u goddiweddodd hwynt, ac a ddywedodd y geiriau hynny wrthynt hwy.
7Y rhai a ddywedasant wrtho yntau, Paham y dywed fy arglwydd y cyfryw eiriau? na atto Duw i’th weision di wneuthur y cyfryw beth.
8Wele, ni a ddygasom attat ti eilwaith o wlad Canaan yr arian a gawsom y’ngenau ein sachau; pa fodd gan hynny y lladrattâem ni arian neu aur o dŷ dy arglwydd di?
9Yr hwn o’th weision di y ceffir y cwppan gyd âg ef, bydded hwnnw farw; a ninnau hefyd a fyddwn gaeth-weision i’m harglwydd.
10Yntau a ddywedodd, Bydded yn awr fel y dywedasoch chwi: yr hwn y ceffir y cwppan gyd âg ef a fydd was i mi, a chwithau a fyddwch ddïeuog.
11Hwythau a frysiasant, ac a ddisgynasant bob un ei sach i lawr, ac a agorasant bawb ei ffettan.
12Yntau a chwiliodd; ar yr hynaf y dechreuodd, ac ar yr ieuangaf y diweddodd: a’r cwppan a gafwyd yn sach Benjamin.
13Yna y rhwygasant eu dillad, ac a bynniasant bawb ar ei asyn, ac a ddychwelasant i’r ddinas.
14¶ A daeth Judah a’i frodyr i dŷ Joseph, ac efe etto yno; ac a syrthiasant i lawr ger ei fron ef.
15A dywedodd Joseph wrthynt, Pa waith yw hwn a wnaethoch chwi? oni wyddech chwi y medr gwr fel myfi ddewiniaeth?
16A dywedodd Judah, Pa beth a ddywedwn wrth fy arglwydd? pa beth a lefarwn? pa fodd yr ymgyfiawnhâwn? cafodd Duw allan anwiredd dy weision: wele ni yn weision i’m harglwydd, ïe nyni, a’r hwn y cafwyd y cwppan gyd âg ef hefyd.
17Yntau a ddywedodd, Na atto Duw i mi wneuthur hyn: y gwr y cafwyd y cwppan yn ei law, efe fydd was i mi; ewch chwithau i fynu, mewn heddwch, at eich tad.
18¶ Yna yr aeth Judah atto ef, ac a ddywedodd, Fy arglwydd, caffed, attolwg, dy was ddywedyd gair y’nghlustiau fy arglwydd, ac na ennyned dy lid wrth dy was: o herwydd yr wyt ti megis Pharaoh.
19Fy arglwydd a ymofynnodd â’i weision, gan ddywedyd, A oes i chwi dad, neu frawd?
20Ninnau a ddywedasom wrth fy arglwydd, Y mae i ni dad, yn hen wr; a phlentyn ei henaint ef, un bychan: a’i frawd a fu farw, ac efe a adawyd ei hunan o’i fam ef; a’i dad sydd hoff ganddo ef.
21Tithau a ddywedaist wrth dy weision, Dygwch ef i waered attaf fi, fel y gosodwyf fy llygaid arno.
22A ni a ddywedasom wrth fy arglwydd, Y llangc ni ddichon ymadael â’i dad: oblegid os ymedy efe â’i dad, marw fydd ei dad.
23Tithau a ddywedaist wrth dy weision. Oni ddaw eich brawd ieuangaf i waered gyd â chwi, nac edrychwch yn fy wyneb mwy.
24Bu hefyd, wedi ein myned ni i fynu at dy was fy nhad, mynegasom iddo ef eiriau fy arglwydd.
25A dywedodd ein tad, Ewch eilwaith, prynwch i ni ychydig luniaeth.
26Dywedasom ninnau, Nis gallwn fyned i waered: os bydd ein brawd ieuangaf gyd â ni, nyni a awn i waered; oblegid ni allwn edrych yn wyneb y gwr, oni bydd ein brawd ieuangaf gyd â ni.
27A dywedodd dy was fy nhad wrthym ni, Chwi a wyddoch mai dau a blantodd fy ngwraig i mi;
28Ac un a aeth allan oddi wrthyf fi; minnau a ddywedais, Yn ddïau gan larpio y llarpiwyd ef; ac nis gwelais ef hyd yn hyn:
29Os cymmerwch hefyd hwn ymaith o’m golwg, a digwyddo niwed iddo ef; yna y gwnewch i’m penllwydni ddisgyn mewn gofid i fedd.
30Bellach gan hynny, pan ddelwyf at dy was fy nhad, heb fod y llangc gyd â ni; (gan fod ei hoedl ef y’nglŷn wrth ei hoedl yntau;)
31Yna pan welo efe na ddaeth y llangc, marw fydd efe; a’th weision a barant i benwynnedd dy was ein tad ni ddisgyn mewn gofid i fedd.
32Oblegid dy was a aeth yn feichiau am y llangc i’m tad, gan ddywedyd, Onis dygaf ef attat ti, yna byddaf euog o fai yn erbyn fy nhad byth.
33Gan hynny weithian, attolwg, arhosed dy was dros y llangc, yn was i’m harglwydd; ac aed y llangc i fynu gyd â’i frodyr:
34Oblegid pa fodd yr âf i fynu at fy nhad, a’r llangc heb fod gyd â mi? rhag i mi weled y gofid a gaiff fy nhad.