Llyfr Genesis 49:33
Pan orphenodd Jacob orchymyn i’w feibion, efe a dynnodd ei draed i’r gwely, ac a fu farw; a chasglwyd ef at ei bobl.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
32Meddiant y maes, a’r ogof sydd ynddo, a gaed gan feibion Heth.
Cross References
Genesis 25:8Ac Abraham a drengodd, ac a fu farw mewn oed teg, yn hen, ac yn gyflawn o ddyddiau; ac efe a gasglwyd at ei bobl.
Genesis 35:29Ac Isaac a drengodd, ac a fu farw, ac a gasglwyd at ei bobl, yn hen, ac yn gyflawn o ddyddiau: a’i feibion, Esau a Jacob, a’i claddasant ef.
Genesis 49:24Er hynny arhôdd ei fwa ef yn gryf, a breichiau ei ddwylaw a gryfhasant, trwy ddwylaw grymmus Dduw Jacob: oddi yno y mae y bugail, maen Israel:
Joshua 24:27A Josua a ddywedodd wrth yr holl bobl, Wele, y maen hwn fydd yn dystiolaeth i ni; canys efe a glywodd holl eiriau yr Arglwydd, y rhai a lefarodd efe wrthym: am hynny y bydd efe yn dystiolaeth i chwi, rhag i chwi wadu eich Duw.
2 Kings 13:20Ac Eliseus a fu farw, a hwy a’i claddasant ef. A minteioedd y Moabiaid a ddaethant i’r wlad y flwyddyn honno. º
Job 14:10Ond gŵr a fydd marw, ac a dorrir ymaith; a dyn a drenga, a pha le y mae?