Llyfr Genesis 5:29
Ac a alwodd ei enw ef Noah, gan ddywedyd, Hwn a’n cysura ni am ein gwaith, a llafur ein dwylaw, o herwydd y ddaear yr hon a felldigodd yr Arglwydd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
28¶ Lamech hefyd a fu fyw ddwy flynedd a phedwar ugain a chàn mlynedd, ac a genhedlodd fab;
Cross References
Genesis 4:11Ac yr awr hon melldigedig wyt ti o’r ddaear, yr hon a agorodd ei safn i dderbyn gwaed dy frawd o’th law di.
Genesis 7:23Ac efe a ddileodd bob sylwedd byw a’r a oedd ar wyneb y ddaear, yn ddyn ac yn anifail, yn ymlusgiaid, ac yn ehediaid y nefoedd; ïe, dilëwyd hwynt o’r ddaear: a Noah a’r rhai oedd gyd âg ef yn yr arch, yn unig, a adawyd yn fyw.
Isaiah 54:9Canys fel dyfroedd Noa y mae hyn i mi: canys megis y tyngais nad elai dyfroedd Noa mwy dros y ddaear; felly y tyngais na ddigiwn wrthyt, ac na’th geryddwn. º
Ezekiel 14:20A Noa, Daniel, a Job, yn ei chanol hi; fel mai byw fi, medd yr ARGLWYDD DDUW, ni waredent na mab na merch; hwynt-hwy yn eu cyfiawnder a waredeat eu heneidiau eu hun yn unig.
Luke 3:36Fab Cainan, fab Arffacsad, fab Sem, fab Noe, fab Lamech,...
Hebrews 11:7Trwy ffydd, Noe, wedi ei rybuddio gan Dduw am y pethau nis gwelsid eto, gyda pharchedig ofn a ddarparodd arch i achub ei dŷ: trwy’r hon y condemniodd efe y byd, ac a wnaethpwyd yn etifedd y cyfiawnder sydd o ffydd.