Llyfr Genesis 5
1Duwioldeb Enoch, a Duw yn ei gymmeryd ef ymaith. Dyma lyfr cenhedlaethau Adda: yn y dydd y creodd Duw ddyn, ar lun Duw y gwnaeth efe ef.
2Yn wrryw ac yn fenyw y creodd efe hwynt: ac efe a’u bendithiodd hwynt, ac a alwodd eu henw hwynt Adda, ar y dydd y crëwyd hwynt.
3¶ Ac Adda a fu fyw ddeng mlynedd ar hugain a chant, ac a genhedlodd fab ar ei lun a’i ddelw ei hun, ac a alwodd ei enw ef Seth.
4A dyddiau Adda, wedi iddo genhedlu Seth, oedd wyth gàn mlynedd, ac efe a genhedlodd feibion a merched.
5A holl ddyddiau Adda, y rhai y bu efe fyw, oedd naw càn mlynedd a deng mlynedd ar hugain; ac efe a fu farw.
6¶ Seth hefyd a fu fyw bùm mlynedd a chàn mlynedd, ac a genhedlodd Enos.
7A Seth a fu fyw wedi iddo genhedlu Enos, saith mlynedd ac wyth gàn mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
8A holl ddyddiau Seth oedd ddeuddeng mlynedd a naw càn mlynedd; ac efe a fu farw.
9¶ Ac Enos a fu fyw ddeng mlynedd a phedwar ugain, ac a genhedlodd Cenan.
10Ac Enos a fu fyw wedi iddo genhedlu Cenan, bymtheng mlynedd ac wyth gàn mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
11A holl ddyddiau Enos oedd bùm mlynedd a naw càn mlynedd; ac efe a fu farw.
12¶ Cenan hefyd a fu fyw ddeng mlynedd a thri ugain, ac a genhedlodd Mahalaleel.
13A bu Cenan fyw wedi iddo genhedlu Mahalaleel ddeugain mlynedd ac wyth gàn mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
14A holl ddyddiau Cenan oedd ddeng mlynedd a naw càn mlynedd; ac efe a fu farw.
15A Mahalaleel a fu fyw bùm mlynedd a thri ugain mlynedd, ac a genhedlodd Jered.
16A Mahalaleel a fu fyw wedi iddo genhedlu Jered, ddeng mlynedd ar hugain ac wyth gàn mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
17A holl ddyddiau Mahalaleel oedd bymtheng mlynedd a phedwar ugain ac wyth gàn mlynedd; ac efe a fu farw.
18¶ A Jered a fu fyw ddwy flynedd a thri ugain a chàn mlynedd, ac a genhedlodd Enoch.
19A Jered a fu fyw wedi iddo genhedlu Enoch wyth gàn mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
20A holl ddyddiau Jered oedd ddwy flynedd a thri ugain a naw càn mlynedd; ac efe a fu farw.
21¶ Enoch hefyd a fu fyw bùm mlynedd a thri ugain, ac a genhedlodd Methuselah.
22Ac Enoch a rodiodd gyd â Duw wedi iddo genhedlu Methuselah, dri chant o flynyddoedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
23A holl ddyddiau Enoch oedd bùm mlynedd a thri ugain a thri chant o flynyddoedd.
24A rhodiodd Enoch gyd â Duw, ac ni welwyd ef; canys Duw a’i cymmerodd ef.
25Methuselah hefyd a fu fyw saith mlynedd a phedwar ugain a chant, ac a genhedlodd Lamech.
26A Methuselah a fu fyw wedi iddo genhedlu Lamech, ddwy flynedd a phedwar ugain a saith gàn mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
27A holl ddyddiau Methwsela oedd naw mlynedd a thri ugain a naw càn mlynedd, ac efe a fu farw.
28¶ Lamech hefyd a fu fyw ddwy flynedd a phedwar ugain a chàn mlynedd, ac a genhedlodd fab;
29Ac a alwodd ei enw ef Noah, gan ddywedyd, Hwn a’n cysura ni am ein gwaith, a llafur ein dwylaw, o herwydd y ddaear yr hon a felldigodd yr Arglwydd.
30A Lamech a fu fyw wedi iddo genhedlu Noa, bymtheng mlynedd a phedwar ugain a phùm càn mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
31A holl ddyddiau Lamech oedd ddwy flynedd ar bymtheg a thri ugain a saith gàn mlynedd; a efe a fu farw.
32A Noah ydoedd fab pùm càn mlwydd; a Noah a genhedlodd Sem, Cham, a Japheth.