Llyfr Genesis 6:17
Ac wele myfi, ïe myfi, yn dwyn dyfroedd diluw ar y ddaear, i ddifetha pob cnawd, yr hwn y mae anadl einioes ynddo, oddi tan y nefoedd: yr hyn oll sydd ar y ddaear a drenga.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 6:7A’r Arglwydd a ddywedodd, Dileaf ddyn yr hwn a greais oddi ar wyneb y ddaear, o ddyn hyd anifail, hyd yr ymlusgiaid, a hyd ehediad y nefoedd: canys y mae yn edifar gennyf eu gwneuthur hwynt.
Genesis 7:4Oblegid wedi saith niwrnod etto, mi a wlawiaf ar y ddaear ddeugain niwrnod a deugain nos: a mi a ddileaf oddi ar wyneb y ddaear bob peth byw a’r a wneuthum i.
Genesis 7:17A’r diluw fu ddeugain niwrnod ar y ddaear; a’r dyfroedd a gynnyddasant, ac a godasant yr arch, a hi a godwyd oddi ar y ddaear.
Genesis 7:23Ac efe a ddileodd bob sylwedd byw a’r a oedd ar wyneb y ddaear, yn ddyn ac yn anifail, yn ymlusgiaid, ac yn ehediaid y nefoedd; ïe, dilëwyd hwynt o’r ddaear: a Noah a’r rhai oedd gyd âg ef yn yr arch, yn unig, a adawyd yn fyw.
Exodus 14:17Wele, fi, ïe, myfi a galedaf galon yr Aiphtiaid, fel y delont ar eu hol hwynt: a mi a ogoneddir ar Pharaoh, ac ar ei holl fyddin, ar ei gerbydau ef, ac ar eu farchogion.
Deuteronomy 32:39Gwelwch bellach mai myfi, myfi yw efe; ac nad oes Duw ond myfi; myfi sydd yn lladd, ac yn bywhâu; myfi a archollaf, ac mi a feddyginiaethaf: ac ni bydd a achubo o’m llaw.