The Bible Software
Llyfr Genesis · Beibl (1620)

Llyfr Genesis 6

1Trefn a phortreiad, a’r achos y gwnaed yr arch. Yna y bu, pan ddechreuodd dynion amlhâu ar wyneb y ddaear, a geni merched iddynt,

2Weled o feibion Duw ferched dynion mai teg oeddynt hwy; a hwy a gymmerasant iddynt wragedd o’r rhai oll a ddewisasant.

3A dywedodd yr Arglwydd, Nid ymrysona fy Yspryd i â dyn yn dragywydd, oblegid mai cnawd yw efe; a’i ddyddiau fyddant ugain mlynedd a chant.

4Cawri oedd ar y ddaear y dyddiau hynny: ac wedi hynny hefyd, pan ddaeth meibion Duw at ferched dynion, a phlanta o’r rhai hynny iddynt: dyma y cedyrn a fu wŷr enwog gynt.

5¶ A’r Arglwydd a welodd mai aml oedd drygioni dyn ar y ddaear, a bod holl fwriad meddylfryd ei galon yn unig yn ddrygionus bob amser.

6Ac edifarhaodd ar yr Arglwydd wneuthur o hono ef ddyn ar y ddaear, ac efe a ymofidiodd yn ei galon.

7A’r Arglwydd a ddywedodd, Dileaf ddyn yr hwn a greais oddi ar wyneb y ddaear, o ddyn hyd anifail, hyd yr ymlusgiaid, a hyd ehediad y nefoedd: canys y mae yn edifar gennyf eu gwneuthur hwynt.

8¶ Ond Noah a gafodd ffafr y’ngolwg yr Arglwydd.

9¶ Dyma genhedlaethau Noah: Noah oedd wr cyfiawn, perffaith yn ei oes: gyd â Duw y rhodiodd Noah.

10A Noah a genhedlodd dri o feibion Sem, Cham, a Japheth.

11A’r ddaear a lygrasid ger bron Duw; llanwasid y ddaear hefyd â thrawsedd.

12A Duw a edrychodd ar y ddaear, ac wele hi a lygrasid; canys pob cnawd a lygrasai ei ffordd ar y ddaear.

13A Duw a ddywedodd wrth Noah, Diwedd pob cnawd a ddaeth ger fy mron: oblegid llanwyd y ddaear â thrawsedd trwyddynt hwy: ac wele myfi a’u difethaf hwynt gyd â’r ddaear.

14¶ Gwna i ti arch o goed Gopher; yn gellau y gwnei yr arch, a phyga hi oddi fewn ac oddi allan â phyg.

15Ac fel hyn y gwnei di hi: tri chàn cufydd fydd hŷd yr arch, a deg cufydd a deugain ei lled, a deg cufydd ar hugain ei huchder.

16Gwna ffenestr i’r arch, a gorphen hi yn gufydd oddi arnodd; a gosod ddrws yr arch yn ei hystlys: o dri uchder y gwnei di hi.

17Ac wele myfi, ïe myfi, yn dwyn dyfroedd diluw ar y ddaear, i ddifetha pob cnawd, yr hwn y mae anadl einioes ynddo, oddi tan y nefoedd: yr hyn oll sydd ar y ddaear a drenga.

18Ond â thi y cadarnhâf fy nghyfammod; ac i’r arch yr âi di, tydi a’th feibion, a’th wraig, a gwragedd dy feibion gyd â thi.

19Ac o bob peth byw, o bob cnawd, y dygi ddau o bob rhyw i’r arch i’w cadw yn fyw gyd â thi; gwrryw a benyw fyddant.

20O’r ehediaid wrth eu rhywogaethh, ac o’r anifeiliaid wrth eu rhywogaeth, o bob ymlusgiad y ddaear wrth ei rywogaeth, dau o bob rhywogaeth a ddaw attat i’w cadw yn fyw.

21A chymmer i ti o bob bwyd a fwyttêir, a chasgl attat; a bydd yn ymborth i ti ac iddynt hwythau.

22Felly y gwnaeth Noah, yn ol yr hyn oll a orchymynasai Duw iddo, felly y gwnaeth efe.

← Llyfr Genesis 5Read In The App, Free →Llyfr Genesis 7 →

Study Llyfr Genesis 6

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

1234567891011121314151617181920212223242526272829303132333435363738394041424344454647484950