Llyfr Genesis 9
1ac yn marw. Duw hefyd a fendithiodd Noah a’i feibion, ac a ddywedodd wrthynt, Ffrwythwch a llïosogwch, a llenwch y ddaear.
2Eich ofn hefyd a’ch arswyd fydd ar holl fwystfilod y ddaear, ac ar holl ehediaid y nefoedd, a’r hyn oll a ymsymmudo ar y ddaear, ac ar holl bysgod y môr; yn eich llaw chwi y rhoddwyd hwynt.
3Pob ymsymmudydd yr hwn sydd fyw, fydd i chwi yn fwyd: fel y gwyrdd lysieuyn y rhoddais i chwi bob dim.
4¶ Er hynny na fwyttêwch gig ynghyd â’i einioes, sef ei waed.
5Ac yn ddïau gwaed eich einioes chwithau hefyd a ofynaf fi: o law pob bwystfil y gofynaf ef; ac o law dyn, o law pob brawd iddo y gofynaf einioes dyn.
6A dywallto waed dyn, trwy ddyn y tywelltir ei waed yntau, o herwydd ar ddelw Duw y gwnaeth efe ddyn.
7Ond chwychwi, ffrwythwch ac amlhêwch, eppiliwch ar y ddaear, a llïosogwch ynddi.
8A Duw a lefarodd wrth Noa, ac wrth ei feibion gyd âg ef, gan ddywedyd,
9Ac wele myfi, ïe myfi, ydwyf yn cadarnhâu fy nghyfammod â chwi, ac â’ch had ar eich ol chwi;
10Ac â phob peth byw yr hwn sydd gyd â chwi, â’r ehediaid, â’r anifeiliaid, ac â phob bwystfil y tir gyd â chwi, o’r rhai oll sydd yn myned allan o’r arch, hyd holl fwystfilod y ddaear.
11A mi a gadarnhâf fy nghyfammod â chwi, ac ni thorrir ymaith bob cnawd mwy gan y dwfr diluw, ac ni bydd diluw mwy i ddifetha’r ddaear.
12A Duw a ddywedodd, Dyma arwydd y cyfammod, yr hwn yr ydwyf fi yn ei roddi rhyngof fi a chwi, ac â phob peth byw a’r y sydd gyd â chwi, tros oesoedd tragywyddol:
13Fy mwa a roddais yn y cwmwl, ac efe a fydd yn arwydd cyfammod rhyngof fi a’r ddaiar.
14A bydd, pan godwyf gwmwl ar y ddaear, yr ymddengys y bwa yn y cwmmwl.
15A mi a gofiaf fy nghyfammod, yr hwn sydd rhyngof fi a chwi, ac â phob peth byw o bob cnawd: ac ni bydd y dyfroedd yn ddiluw mwy, i ddifetha pob cnawd.
16A’r bwa a fydd yn y cwmmwl; a mi a edrychaf arno ef, i gofio y cyfammod tragywyddol rhwng Duw a phob peth byw, o bob cnawd a’r y sydd ar y ddaear.
17A Duw a ddywedodd wrth Noah, Dyma arwydd y cyfammod, yr hwn a gadarnheais rhyngof fi a phob cnawd a’r y sydd ar y ddaear.
18¶ A meibion Noah y rhai a ddaeth allan o’r arch, oedd Sem, Cham, a Japheth; a Cham oedd dad Canaan.
19Y tri hyn oedd feibion Noah: ac o’r rhai hyn yr hiliwyd yr holl ddaear.
20A Noah a ddechreuodd fod yn llafurwr, ac a blannodd winllan:
21Ac a yfodd o’r gwin, ac a feddwodd, ac a ymnoethodd y’nghanol ei babell.
22A Cham tad Canaan a welodd noethni ei dad, ac a fynegodd i’w ddau frawd allan.
23A chymmerodd Sem a Japheth ddilledyn, ac a’i gosodasant ar eu hysgwyddau ill dau, ac a gerddasant yn wysg eu cefn, ac a orchuddiasant noethni eu tad; a’u hwynebau yn ol, fel na welent noethni eu tad.
24A Noah a ddeffrôdd o’i win, ac a wybu beth a wnaethai ei fab ieuangaf iddo.
25Ac efe a ddywedodd, Melldigedig fyddo Canaan; gwas gweision i’w frodyr fydd.
26Ac efe a ddywedodd, Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Sem; a Chanaan fydd was iddo ef.
27Duw a helaetha ar Japheth, ac efe a breswylia ym mhebyll Sem; a Chanaan fydd was iddo ef.
28¶ A Noah a fu fyw wedi y diluw dri chàn mlynedd a deng mlynedd a deugain.
29Felly holl ddyddiau Noah oedd naw càn mlynedd a deng mlynedd a deugain; ac efe a fu farw.