Llyfr Habacuc 3:8
A sorrodd yr ARGLWYDD wrth yr afonydd? ai wrth yr afonydd y mae dy ddig? ai wrth y môr y mae dy ddigofaint, gan i ti farchogaeth ar dy feirch, ac ar gerbydau dy iachawdwriaeth?
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
7Dan gystudd y gwelais wersyllau Cuwsan; crynodd llenni tir Midian.
9Llwyr noethwyd dy fwa, yn ôl llwon y llwythau, sef dy air di. Sela. Holltaist y ddaear ag afonydd.
Cross References
Exodus 14:21A Moses a estynodd ei law ar y môr: a’r Arglwydd a yrrodd y môr yn ei ol, trwy ddwyreinwynt cryf ar hyd y nos, ac a wnaeth y môr yn sychdir, a holltwyd y dyfroedd.
Joshua 3:16Yna y dyfroedd, y rhai oedd yn disgyn oddi uchod, a safasant; cyfodasant yn bentwr ym mhell iawn oddi wrth y ddinas Adam, yr hon sydd o ystlys Saretan: a’ r dyfroedd y rhai oedd yn disgyn i fôr y rhos, sef i’r môr heli, a ddarfuant, ac a dorrwyd ymaith. Felly y bobl a aethant drosodd ar gyfer Jericho.
Psalms 45:4Ti, DDUW, yw fy mrenin: gorchymyn iachawdwriaeth i Jacob.
Psalms 114:3O godiad haul hyd ei fachludiad, moliannus yw enw yr ARGLWYDD.
Isaiah 19:1BAICH yr Aifft. Wele yr ARGLWYDD yn marchogaeth ar gwmwl ysgafh, ac efe a ddaw i’r Aifft: ac eilunod yr Aifft a gynhyrfant rhagddo ef, a chalon yr Aifft a dawdd yn ei chanol. º