Y Llythyr at yr Hebreaid 8:11
Ac ni ddysgant bob un ei gymydog, a phob un ei frawd, gan ddywedyd, Adnebydd yr Arglwydd: oblegid hwynt-hwy oll a’m hadnabyddant i, o’r lleiaf ohonynt hyd y mwyaf ohonynt.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Y Llythyr at yr Hebreaid 8
Cross References
1 Chronicles 28:9A thithau Solomon fy mab, adne-bydd DDUW dy dad, a gwasanaetha ef a chalon berffaith, ac a meddwl ewyllysgar: canys yr ARGLWYDD sydd yn Chwilio yr holl galonnau, ac yn deall pob dychymyg meddyliau. O cheisi ef, ti a’i cei; ond os gwrthodi ef, efe a’th fwrw di ymaith yn dragywydd. º
Ezra 7:25Tithau, Esra, yn ôl doethineb dy DDUW, yr hwn sydd yn dy law, gosod gwyddogion a barnwyr, i farnu yr holl bobl o’r tu hwnt i’r afon, y rhai oll a fedrant gyfraith dy DDUW; a dysgwch y rhai nis medrant.
Isaiah 54:13Dy holl feibion hefyd fyddant wedi eu dysgu gan yr ARGLWYDD; a mawr fydd heddwch dy feibion. º
Jeremiah 24:7Rhoddaf hefyd iddynt galon i’m hadnabod, mai yr ARGLWYDD ydwyf fi: a, hwy a fyddant yn bobl i mi, a minnau a fyddaf yn DDUW iddynt hwy: canys hwy-a droant ataf fi a’u holl galon. º
Jeremiah 42:1FELLY holl dywysogion y llu, a Johanan mab Carea, a Jesaneia mab Hosaia, a’r holl bobl, o fychan hyd fawr, a nesasant, º
Jeremiah 44:12A mi a gymeraf weddill Jwda, y rhai a osodasant eu hwynebau i fyned i wlad yr Aifft i aros yno, a hwy a ddifethir oll; yng ngwlad yr Aifft y syrthiant: trwy y cleddyf a thrwy newyn y difethir hwynt: o fychan hyd fawr, trwy y cleddyf a: thrwy newyn y byddant feirw: a hwy;a fyddant yn felltith, ac yn syndod, ac yn rheg, ac yn warth. º