Y Llythyr at yr Hebreaid 8:13
Wrth ddywedyd, Cyfamod newydd, efe a farnodd y cyntaf yn hen. Eithr yr hwn a aeth yn hen ac yn oedrannus, sydd agos i ddiflannu.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Y Llythyr at yr Hebreaid 8
Cross References
Isaiah 51:6Dyrchefwch eich llygaid tua’r nefoedd, ac edrychwch ar y ddaear isod: canys y nefoedd a ddarfyddant fel mwg, a’r ddaear a heneiddia fel dilledyn, a’i phreswylwyr yr un modd a fyddant feirw; ond fy iachawdwriaeth i a fydd byth, a’m cyfiawnder ni dderfydd. º
1 Corinthians 13:8Cariad byth ni chwymp ymaith: eithr pa un bynnag ai proffwydoliaethau, hwy a ballant; ai tafodau, hwy a beidiant; ai gwybodaeth, hi a ddiflanna.
Hebrews 7:11Os ydoedd gan hynny berffeithrwydd trwy offeiriadaeth Lefi, (oblegid dan honno y rhoddwyd y gyfraith i’r bobl,) pa raid oedd mwyach godi Offeiriad arall yn ôl urdd Melchisedec, ac nas gelwid ef yn ôl urdd Aaron?
Hebrews 9:9Yr hwn ydoedd gyffelybiaeth dros yr amser presennol, yn yr hwn yr offrymid rhoddion ac aberthau, y rhai ni allent o ran cydwybod berffeithio’r addolydd;