Llyfr Eseia 51:6
Dyrchefwch eich llygaid tua’r nefoedd, ac edrychwch ar y ddaear isod: canys y nefoedd a ddarfyddant fel mwg, a’r ddaear a heneiddia fel dilledyn, a’i phreswylwyr yr un modd a fyddant feirw; ond fy iachawdwriaeth i a fydd byth, a’m cyfiawnder ni dderfydd. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Deuteronomy 4:19Hefyd rhag dyrchafu o honot dy lygaid tu a’r nefoedd, a gweled yr haul, a’r lleuad, a’r sêr, sef holl lu y nefoedd, a’th yrru di i ymgrymmu iddynt, a gwasanaethu o honot hwynt, y rhai a rannodd yr Arglwydd dy Dduw i’r holl bobloedd dan yr holl nefoedd.
Psalms 111:3Dy bobl a fyddant ewyllysgar yn nydd dy nerth, mewn harddwch sancteiddrwydd o groth y wawr: y mae gwlith dy enedigaeth i ti.
Isaiah 34:4Holl lu y nefoedd hefyd a ddatodir, a’r nefoedd a blygir fel llyfr: a’i holl lu a syrth, fel y syrthiai deilen o’r winwydden, ac fel ffigysen yn syrthio oddi ar y pren. º
Isaiah 45:17Israel a achubir yn yr ARGLWYDD a iachawdwriaeth dragwyddol: ni’ch cywilyddir ac ni’ch gwaradwyddir byth byth;oedd. º
Isaiah 51:8Canys y pryf a’u bwyty fel dilledyn, a’r gwyfyn a’u hysa fel gwlân: eithr fy nghyfiawnder a fydd yn dragywydd, a’m, hiachawdwriaeth o genhedlaeth i genhedlaeth. º