Y Llythyr at yr Hebreaid 9:7
Ac i’r ail, unwaith bob blwyddyn yr âi’r archoffeiriad yn unig; nid heb waed, yr hwn a offrymai efe drosto’i hun, a thros anwybodaeth y bobl.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Y Llythyr at yr Hebreaid 9
Cross References
Leviticus 5:18A dyged hwrdd perffeith-gwbl o’r praidd, gyd â’th bris di, at yr offeiriad, yn offrwm dros gamwedd: a gwnaed yr offeiriad gymmod drosto am ei amryfusedd a gamgymmerodd efe, ac yntau heb wybod; a maddeuir iddo.
Leviticus 16:34A bydded hyn yn ddeddf dragywyddol i chwi, i wneuthur cymmod dros feibion Israel, am eu pechodau oll, un waith yn y flwyddyn. Ac efe a wnaeth megis y gorchymynodd yr Arglwydd wrth Moses.
2 Chronicles 33:9Felly Manasse a wnaeth i Jwda a thrigolion Jerwsalem gyfeiliorni, a gwneuthur yn waeth na’r cenhedloedd a ddifethasai yr ARGLWYDD o flaen meibion Israel.
Psalms 95:10Oni cherydda yr hwn a gosba y cenhedloedd? oni ŵyr yr hwn sydd yn dysgu gwybodaeth i ddyn?
Isaiah 9:16Canys cyfarwyddwyr y bobl hyn sydd yn peri iddynt gyfeiliorni, a Dyncwyd y rhai a gyfarwyddir ganddynt. º
Isaiah 29:14Am hynny wele fi yn myned rhagof i wneuthur yn rhyfedd ymysg y bobl hyn, sef gwyrthiau a rhyfeddod; canys difethir doethineb eu doethion hwynt, a dealt eu rhai deallgar hwynt a ymguddia. º