Llyfr Hosea 4:13
Ar bennau y mynyddoedd yr aberthant, ac ar y bryniau y llosgant arogl-darth, dan y dderwen, a’r boplysen, a’r llwyfen, am fod yn dda eu cysgod: am hynny y puteinia eich merched chwi, a’ch gwragedd a dorrant briodas.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
2 Samuel 12:10Yn awr gan hynny nid ymedy y cleddyf a’th dŷ di byth; oherwydd i ti fy nirmygu i, a chymryd gwraig Ureias yr Hethiad i fod yn wraig i ti. º
2 Kings 23:7Ac efe a fwriodd i lawr dai y sodomiaida y rhai oedd wrth dŷ yr ARGLWYDD, lle yr oedd y gwragedd yn gwau cortynnau i’r llwyn. º
Isaiah 1:29Canys cywilyddiant o achos y derw a chwenychasoch; a gwarthruddir chwi am y gerddi a ddetholasoch.
Isaiah 57:7Ar fynydd uchel a dyrchafedig y gosodaist dy wely: dringaist hefyd yno i aberthu aberth. º
Jeremiah 3:6A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf yn amser Joseia y brenin, A welaist ti hyn a wnaeth Israel wrthnysig? Hi a aeth i bob mynydd uchel, a than bob pren deiliog, ac a buteiniodd yno.
Ezekiel 6:13A chewch wybod mai myfi yw ye ARGLWYDD, pan fyddo eu harcholted-igion hwynt ymysg eu heilunod o am¬gylch eu hallorau, ar bob bryn uchel, aar holl bennau y mynyddoedd, a than bob pren ir, a than bob derwen gaeadfrig, lle y rhoddasant arogi peraidd i'w hoB eilunod.