Llyfr Eseia 1:23
Dy dywysogion sydd gyndyn, ac yn gyfranogion a lladron; pob un yn cam rhoddion, ac yn dilyn gwobrau: ni farnant yr amddifad, a chŵyn y weddw ni chaiff ddyfod atynt.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
22Dy arian a aeth yn sothach, dy win sydd wedi ei gymysgu â dwfr:
Cross References
Exodus 23:8¶ Na dderbyn wobr: canys gwobr a ddalla y rhai sydd yn gweled, ac a ŵyra eiriau y cyfiawn.
Deuteronomy 16:19Na ŵyra farn, ac na chydnebydd wynebau; na dderbyn wobr chwaith: canys gwobr a ddalla lygaid y doethion, ac a ŵyra eiriau y cyfiawn.
2 Chronicles 24:17Ac wedi marw Jehoiada, tywysogion Jwda a ddaethant, ac a ymgrymasant i’r brenin: yna y brenin a wrandawodd arnynt hwy.
Proverbs 17:23Yr annuwiol a dderbyn rodd o’r fynwes, i gamdroi llwybrau barn.
Isaiah 1:17Dysgwch wneuthur daioni: ceisiwch farn, gwnewch uniondeb i’r gorthrymedig, gwnewch farn i’r amddifad, dadleuwch dros y weddw.
Isaiah 3:14Yr ARGLWYDD a ddaw i farn â henuriaid ei bobl, a’u tywysogion: canys chwi a borasoch y winllan; anrhaith y tlawd sydd yn eich tai.