The Bible Software
Llyfr Eseia · Beibl (1620)

Llyfr Eseia 1

1Gweledigaeth Eseia mab Amos, yr hon a welodd efe am Jwda a Jerwsalem, yn nyddiau Usseia, Jotham, Alias, a Heseceia, brenhinoedd Jwda.

2Gwrandewch, nefoedd; clyw dithau ddaear: canys yr ARGLWYDD a lefarodd, Megais a meithrinais feibion, a hwy a wrthryfelasant i’m herbyn.

3Yr ych a edwyn ei feddiannydd, a’r asyn breseb ei berchennog: ond Israel nid edwyn, fy mhobl ni ddeall.

4O genhedlaeth bechadurus, pobl lwythog o anwiredd, had y rhai drygionus, meibion yn llygru: gwrthodasant yr ARGLWYDD, digiasant Sanct Israel, ciliasant yn ôl!

5I ba beth y’ch trewir mwy? cildynrwydd a chwanegwch: y pen oll sydd glwyfus, a’r holl galon yn llesg.

6O wadn y troed hyd y pen nid oes dim cyfan ynddo; ond archollion, a chleisiau, a gweliau crawnllyd: ni wasgwyd hwynt, ac ni rwymwyd, ac ni thynerwyd ag olew.

7Y mae eich gwlad yn anrheithiedig, eich dinasoedd wedi eu llosgi â thân: eich tir a dieithriaid yn ei ysu yn eich gŵydd, ac wedi ei anrheithio fel ped ymchwelai estroniaid ef.

8Merch Seion a adewir megis lluesty mewn gwinllan, megis llety mewn gardd cucumerau, megis dinas warchaeëdig.

9Oni buasai i ARGLWYDD y lluoedd adael i ni ychydig iawn o weddill, fel Sodom y buiasem, a chyffelyb fuasem i Gomorra.

10Gwrandewch air yr ARGLWYDD tywysogion Sodom, clywch gyfraith ein Duw ni, pobl Gomorra.

11Beth yw lluosowgrwydd eich aberthau i mi? medd yr ARGLWYDD: llawn ydwyf o boethaberthau hyrddod, ac o fraster anifeiliaid breision; gwaed bustych hefyd, ac ŵyn, a bychod, nid ymhyfrydais ynddynt.

12Pan ddeloch i ymddangos ger fy mron, pwy a geisiodd hyn ar eich llaw, sef sengi fy nghynteddau?

13Na chwanegwch. ddwyn offrwmt ofer: arogl-darth sydd ffiaidd gennyf; ni allaf oddef y newyddloerau na’r Sabothau, cyhoeddi cymanfa; anwiredd ydyw, sef yr uchel ŵyl gyfarfod.

14Eich lleuadau newydd a’ch gwyliau gosodedig a gasaodd fy enaid: y maent yn faich arnaf; blinais yn eu dwyn.

15A phan estynnoch eich dwylo, mi a guddiaf fy llygaid rhagoch: hefyd pan weddïoi-h lawer, ni wrandawaf: eich dwylo sydd lawn o waed.

16Ymolchwch, ymlanhewch, bwriwch ymaith ddrygioni eich gweithredoedd oddi ger bron fy llygaid; peidiwch â gwneuthur drwg;

17Dysgwch wneuthur daioni: ceisiwch farn, gwnewch uniondeb i’r gorthrymedig, gwnewch farn i’r amddifad, dadleuwch dros y weddw.

18Deuwch yr awr hon, ac ymresymwn, medd yr ARGLWYDD: pe byddai eich pechodau fel ysgarlad, ânt cyn wynned â’r eira; pe cochent fel porffor, byddant fel gwlân.

19Os byddwch ewyllysgar ac ufudd, daioni y tir a fwytewch.

20Ond os gwrthodwch, ac os anufuddhewch, a chleddyf y’ch ysir: canys genau yr ARGLWYDD a’i llefarodd.

21Pa wedd yr aeth y ddinas ffyddlon yn butain! cyflawn fu o farn: lletyodd cyfiawnder ynddi; ond yr awr hon lleiddiaid.

22Dy arian a aeth yn sothach, dy win sydd wedi ei gymysgu â dwfr:

23Dy dywysogion sydd gyndyn, ac yn gyfranogion a lladron; pob un yn cam rhoddion, ac yn dilyn gwobrau: ni farnant yr amddifad, a chŵyn y weddw ni chaiff ddyfod atynt.

24Am hynny medd yr Arglwydd, AR¬GLWYDD y lluoedd, cadarn DDUW Israel, Aha, ymgysuraf ar fy ngwrthwynebwyr, ac ymddialaf ar fy ngelynion.

25A mi a ddychwelaf fy llaw arnat, ac a lân buraf dy sothach, ac a dynnaf ymaith dy holl alcam.

26Adferaf hefyd dy farnwyr, fel cynt, a’th gynghoriaid megis yn y dechrau: wedi hynny y’th elwir yn Ddinas cyfiawn¬der, yn Dref ffyddlon.

27Seion a waredir â barn, a’r rhai a ddychwelant ynddi â chyfiawnder.

28A dinistr y troseddwyr a’r pechaduriaid fydd ynghyd; a’r rhai a ymadawant â’r ARGLWYDD, a ddifethir.

29Canys cywilyddiant o achos y derw a chwenychasoch; a gwarthruddir chwi am y gerddi a ddetholasoch.

30Canys byddwch fel derwen â’i dail yn syrthio, ac fel gardd heb ddwfr iddi.

31A’r cadarn fydd fel carth, a’i weithydd fel gwreichionen: a hwy a losgant ill dau ynghyd, ac ni bydd a’u diffoddo.

← Caniad Solomon 8Read In The App, Free →Llyfr Eseia 2 →

Study Llyfr Eseia 1

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566