Llyfr Eseia 1:3
Yr ych a edwyn ei feddiannydd, a’r asyn breseb ei berchennog: ond Israel nid edwyn, fy mhobl ni ddeall.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Deuteronomy 32:28Canys cenedl heb gynghor ydynt hwy, ac heb ddeall ynddynt.
Proverbs 6:6Cerdda at y morgrugyn, tydi ddiogyn; edrych ar ei ffyrdd ef, a bydd ddoeth:
Isaiah 5:12Ac yn eu gwleddoedd hwynt y mae y delyn, a’r nabl, y dympan, a’r bibell, a’r gwin: ond am waith yr ARGLWYDD nid edrychant, a gweithred ei ddwylo ef nid ystyriant.
Isaiah 42:20Er gweled llawer, eto nid ystyri; er agoryd clustiau, eto ni wrendy. º
Jeremiah 4:22Canys y mae fy mhobl i yn ynfyd heb fy adnabod i, meibion angall ydynt, ac nid deallgar hwynt: y maent yn synhwyrol i wneuthur drwg, eithr gwneuthur da ni fedrant.
Jeremiah 9:3A hwy a anelasant eu tafod fel eu bwa i gelwydd; ac nid at wirionedd yr ymgryfhasant ar y ddaear: canys aethant o ddrwg i ddrwg, ac nid adnabuant fi, medd yr ARGLWYDD.