Llyfr Eseia 1:2
Gwrandewch, nefoedd; clyw dithau ddaear: canys yr ARGLWYDD a lefarodd, Megais a meithrinais feibion, a hwy a wrthryfelasant i’m herbyn.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Deuteronomy 1:31Ac yn yr anialwch, lle y gwelaist fel y’th ddug yr Arglwydd dy Dduw, fel y dwg gwr ei fab, yn yr holl ffordd a gerddasoch, nes eich dyfod i’r man yma.
Deuteronomy 4:26Galw yr ydwyf yn dystion yn eich erbyn chwi heddyw y nefoedd a’r ddaear, gan ddarfod y derfydd am danoch yn fuan oddi ar y tir yr ydych yn myned dros yr Iorddonen iddo i’w feddiannu: nid estynwch ddyddiau ynddo, ond gan ddifetha y’ch difethir.
Deuteronomy 30:19Galw yr wyf yn dyst i’th erbyn heddyw y nefoedd a’r ddaear, roddi o honof o’th flaen di einioes ac angau, bendith a melldith: dewis dithau yr einioes, fel y byddych fyw, ti a’th had;
2 Kings 21:22Ac efe a wrthododd ARGLWYDD DDUW ei dadau, ac ni rodiodd yn ffordd yr ARGLWYDD. º
Isaiah 5:1Canaf yr awr hon i’m hanwylyd, ganiad fy anwylyd am ei winllan. Gwinllan sydd i’m hanwylyd mewn bryn tra ffrwythlon:
Isaiah 30:9Mai pobl wrthryfeigar yw y rhai hyn, plant celwyddog, plant ni fynnant wrando cyfraith yr ARGLWYDD: ‘ º