Llyfr Eseia 14:12
Pa fodd y syrthiaist o’r nefoedd, Lusiffer, mab y wawr ddydd! pa fodd y’th dorrwyd di i lawr, yr hwn a wanheaist y cenhedloedd! º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
11Disgynnwyd dy falchder i’r bedd, a thrwst dy nablau: tanat y taenir pryf, pryfed hefyd a’th doant. º
Cross References
Isaiah 13:10Canys sêr y nefoedd, a’u planedau, ni roddant eu llewyrch: yr haul a dywyllir yn ei godiad, a’r lloer ni oleua a’i llewyrch. º
Isaiah 34:4Holl lu y nefoedd hefyd a ddatodir, a’r nefoedd a blygir fel llyfr: a’i holl lu a syrth, fel y syrthiai deilen o’r winwydden, ac fel ffigysen yn syrthio oddi ar y pren. º
Jeremiah 51:20Ti wyt forthwyl i mi, ac arfau rhyfel: canys a thi y drylliaf y cenhedloedd, ac a thi y dinistriaf deyrnasoedd;: º
Luke 10:18Ac efe a ddywedodd wrthynt. Mi a welais Satan megis mellten, yn syrthio o’r nef.
2 Peter 2:4Canys onid arbedodd Duw yr angylion a bechasent, eithr eu taflu hwynt i uffern, a’u rhoddi i gadwynau tywyllwch, i’w cadw i farnedigaeth,
Revelation 8:10A’r trydydd angel a utganodd; a syrthiodd o’r nef seren fawr yn llosgi fel lamp, a hi a syrthiodd ar draean yr afonydd, ac ar ffynhonnau’r dyfroedd;