Llyfr Eseia 15:2
Aeth i fyny i Baith, ac i Dibon, i’r uchelfeydd, i wylo: am Nebo, ac am Medeba, yr uda Moab; bydd moelni ar eu holl bennau, a phob barf wedi ei heillio. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Leviticus 13:40A gwr pan syrthio gwallt ei ben, moel yw; etto glân fydd.
Leviticus 21:5Na wnant foelni ar eu pennau, ac nac eilliant gyrrau eu barfau, ac na thorrant dorriadau ar eu cnawd.
Numbers 32:3Atoroth, a Dibon, a Jazer, a Nimrah, a Hesbon, ac Elealeh, a Sebam, a Nebo, a Beon,
Deuteronomy 14:1Degwm y drydedd flwyddyn yn elusen. Plant ydych chwi i’r Arglwydd eich Duw: na thorrwch mo honoch eich hunain, ac na wnewch foelni rhwng eich llygaid, dros y marw.
Joshua 13:16A’u terfyn hwynt oedd o Aroer, yr hon sydd ar fin afon Arnon, a’r ddinas sydd y’nghanol y dyffryn, a’r holl wastadedd wrth Medeba;
Job 1:20Yna y cyfododd Job, ac a rwygodd ei fantell, ac a eilliodd ei ben, ac a syrthiodd i lawr, ac a addolodd;