Llyfr Eseia 15
1BAICH Moab. Oherwydd, y nos y dinistriwyd Ar Moab, ac y distawyd hi; oherwydd y nos y dinistriwyd Cir Moab, ac y distawyd hi. º
2Aeth i fyny i Baith, ac i Dibon, i’r uchelfeydd, i wylo: am Nebo, ac am Medeba, yr uda Moab; bydd moelni ar eu holl bennau, a phob barf wedi ei heillio. º
3Yn eu heolydd yr ymwregysant â sachliain: ar bennau eu tai, ac yn eu heolydd, yr uda pob un, gan wylo yn hidl. º
4Gwaedda Hesbon hefyd, ac Eleale: hyd Jahas y clywir eu llefain hwynt: am hynny arfogion Moab a floeddiant, pob un a flina ar ei einioes. º
5Fy nghalon a waedda am Moab, ei ffoaduriaid hi a ânt hyd Soar, fel anner deirblwydd; mewn wylofain y dringant hyd allt Luhith: canys codant waedd dinistr ar hyd ffordd Horonaim. º
6Oherwydd dyfroedd Nimrim a fyddant yn anrhaith: canys gwywodd y llysiau, darfu y gwellt; nid oes gwyrddlesni. º
7Am hynny yr helaethrwydd a gawsant, a’r hyn a roesant i gadw, a ddygant i afon yr helyg. º
8Canys y gweiddi a amgylchynodd derfyn Moab, eu hudfa hyd Eglaim, a’u hochain hyd Beer-elim. º
9Canys dyfroedd Dimon a lenwir o waed; canys gosodaf ychwaneg ar Oimon, llewod ar yr hwn a ddihango ym Moab, ac ar weddill y wlad. PENNOD l 6 º