Llyfr Eseia 17:7
Yn y dydd hwnnw yr edrych dyn at ei Wneuthurwr, â’i lygaid a edrychant ar Sanct Israel:.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
2 Chronicles 30:10Felly y rhedegwyr a aethant o ddinas i ddinas trwy wlad Effraim a Manasse, hyd Sabulon: ond hwy a wawdiasant, ac a’u gwatwarasant hwy.
2 Chronicles 31:1Ac wedi gorffen hyn i gyd, holl Israel y rhai oedd bresennol a aethant allan i ddinasoedd Jwda, ac a ddrylliasant y delwau, ac a dorasant y llwyni, ac a ddistrywiasant yr uchelfeydd a’r allorau allan o holl Jwda a Benjamin, yn Effraim hefyd a Manasse, nes eu llwyr ddifa. Yna holl feibion Israel a ddychwelasant bob un i’w feddiant, i’w dinasoedd.
Isaiah 10:20A bydd yn y dydd hwnnw, na chwanega gweddill Israel, a’r rhai a ddihangodd o dŷ Jacob, ymgynnal mwy* ach ar yr hwn a’u trawodd; ond pwysant ar yr ARGLWYDD, Sanct Israel, mewn gwirionedd. º
Isaiah 22:11A rhwng y ddau fur y gwnaethoch lyn i ddyfroedd yr hen bysgodlyn: ond nid edrychasoch am ei wneuthurwr, nid ystyriasoch yr hwn a’i lluniodd ef er ys talm. º
Isaiah 29:18A’r dydd hwnnw y rhai byddar a glywant eiriau y llyfr, a llygaid y deillion. a welant allan o niwi a thywyllwch., º
Jeremiah 3:12Cerdda, a chyhoedda y geiriau hyn tua’r gogledd, a dywed, Ti Israel wrthnysig, dychwel, medd yr ARGLWYDD, ac ni adawaf i’m llid syrthio arnoch: canys trugarog ydwyf fi, medd yr AR¬GLWYDD, ni ddaliaf lid yn dragywydd.