The Bible Software
Llyfr Eseia · Beibl (1620)

Llyfr Eseia 17

1BAICH Damascus. Wele Damascus wedi ei symud o fod yn ddinas, a charnedd wedi syrthio a fydd hi. º

2Gwrthodwyd dinasoedd Aroer: i ddiadellau y byddant, y rhai a orweddant, ac ni bydd a’u dychryno. º

3A derfydd amddiffynfa o Effraim, a brenhiniaeth o Damascus, a gwedditi Syria: fel gogoniant meibion Israel y byddant, medd ARGLWYDD y lluoedd. º

4Ac ar y dydd hwnnw y bydd i ogoniant Jacob feinhau, a braster ei gig ef a gulha. º

5Ac efe a fydd fel pan gasglo y cynaeafwr ŷd, a medi a’i fraich y tywysennau: a bydd fel casglydd tywysennau yng nglyn Reffaim. º

6Eto ynddo y gadewir lloffion grawnwin, fel ysgydwad olewydden, sef dau neu dri o rawn ym miaen y brig, a phedwar neu bump yn ei changhennau ffrwythlon eithaf, medd ARGLWYDD DDUW Israel. º

7Yn y dydd hwnnw yr edrych dyn at ei Wneuthurwr, â’i lygaid a edrychant ar Sanct Israel:.

8Ac nid edrych am yr allorau, y rhai ydynt waith ei ddwylo; ie, nid edrych am yr hyn a wnaeth ei fysedd, na’r llwyni, na’r delwau. º

9Yn y dydd hwanw y bydd eu dinasoedd cedyrn fel cangen wrthodedig, a’r brig, y rhai a adawsant oherwydd meibion Israel: felly y bydd anghyfanhedd-dra. º

10Oherwydd anghofio ohonot DDCW dy iachawdwriaeth, ac na chofiaist graig dy gadernid: am hynny y plenni blanhigion hyfryd, ac yr impi hwynt a chang¬hennau dieithr. º

11Y dydd y gwnei i’th blanhigyn dyfu, a’r bore y gwnei i’th had flodeuo: ond bydd y cynhaeaf yn bentwr ar ddydd llesgedd a dolur gofidus. º

12Gwae dyrfa pobloedd lawer, fel twrf y môr y trystiant; ac i dwrf y bobloedd a drystiant fel sŵn dyfroedd lawer. º

13Fel sŵn dyfroedd lawer y trystia y bobl; a Duw a’u cerydda hwynt, a hwy a ffoant ymheli, ac a erhdir fel peiswyn mynydd o flaen y gwynt, ac fel peth yn treiglo ym miaen corwynt. º

14Ac wele drallod ar brynhawn, a chyn y bore ni bydd. Dyma ran y rhai a’n hanrheithiant ni, a choelbren y rhai a’n hysbeiliant ni.

← Llyfr Eseia 16Read In The App, Free →Llyfr Eseia 18 →

Study Llyfr Eseia 17

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566