Llyfr Eseia 24:5
Y ddaear hefyd a halogwyd dan ei phreswylwyr: canys troseddasant y cyfreithiau, newidiasant y deddfau, diddymasant y cyfamod tragwyddol. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
4Galarodd a diflannodd y ddaear, llesgaodd a dadwinodd y byd, dihoenodd pobl feilchion y ddaear. º
Cross References
Genesis 3:17Hefyd wrth Adda y dywedodd, Am wrandaw o honot ar lais dy wraig, a bwytta o’r pren am yr hwn y gorchymynaswn i ti, gan ddywedyd, Na fwytta o hono; melldigedig fydd y ddaear o’th achos di: trwy lafur y bwyttêi o honi holl ddyddiau dy einioes.
Genesis 17:13Gan enwaedu enwaeder yr hwn a aner yn dy dŷ di, ac a bryner am dy arian di: a bydd fy nghyfammod yn eich cnawd chwi, yn gyfammod tragywyddol.
Leviticus 20:22¶ Am hynny cedwch fy holl ddeddfau, a’m holl farnedigaethau, a gwnewch hwynt; fel na chwydo y wlad chwi, yr hon yr ydwyf yn eich dwyn iddi i breswylio ynddi.
Numbers 35:33Fel na halogoch y tir yr ydych ynddo; canys y gwaed hwn a haloga y tir: a’r tir ni lanhêir oddi wrth y gwaed a dywallter arno, ond â gwaed yr hwn a’i tywalltodd.
Deuteronomy 32:20Ac efe a ddywedodd, Cuddiaf fy wyneb oddi wrthynt, edrychaf beth fydd eu diwedd hwynt: canys cenhedlaeth diofaus ydynt hwy, meibion heb ffyddlondeb ynddynt.
Joshua 24:25Felly Josua a wnaeth gyfammod â’r bobl y dwthwn hwnnw, ac a osododd iddynt ddeddfau a barnedigaethau, yn Sichem.