Llyfr Eseia 29:21
Y rhai a wnânt ddyn yn droseddwr oherwydd gair, ac a osodant faglau i’r hwn a geryddo yn y porth, ac a wnânt i’r cyfiawn wyro am beth coeg. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Proverbs 28:21Nid da derbyn wyneb: canys y cyfryw ŵr am damaid o fara a wna gam.
Isaiah 5:23Y rhai a gyfiawnhânt yr anwir er gwobr, ac a gymerant ymaith gyfiawnder y rhai cyfiawn oddi ganddynt.
Jeremiah 18:18Yna y dywedasant, Deuwch, a dychmygwn ddychmygion yn erbyn Jeremeia; canys ni chyll y gyfraith gan yr offeiriad, na chyngor gan y doeth, na’r gair gan y proffwyd: deuwch, trawn ef a’r tafod, ac nac ystyriwn yr un o’i eiriau ef. º
Jeremiah 26:2Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Saf yng nghyntedd tŷ yr ARGLWYDD, a llefara wrth holl ddinasoedd Ju dah, y rhai a ddêl i addoli i dŷ yr ARGLWYDD, yr holl eiriau a orchmynnwyf i ti eu llefaru wrthynt; na atal air: º
Amos 5:10Cas ganddynt a geryddo yn y porth, a ffiaidd ganddynt a lefaro yn berffaith.
Micah 2:6Na phroffwydwch, meddant wrth y rhai a broffwydant: ond ni phroffwydant iddynt na dderbyniont gywilydd.