Llyfr Eseia 29
1GWAE Ariel, Ariel, y ddinas y trigodd Dafydd ynddii ychwanegwch flwyddyn at flwyddyn; lladdant ebyrth..’ º
2Eto mi a gyfyngaf ar Ariel, a bydd galar a griddfan; a hi a fydd i mi fel Ariel. º
3A gwersyllaf yn grwn i’th erbyn, ac’a warchaeaf i’th erbyn mewn gwarchdwr, ac a gyfodaf wrthglawdd yn dy erbyn. º
4A thi a ostyngir; o’r ddaear y lleferi, ac o’r llwch y bydd isel dy leferydd; dy lais fydd hefyd o’r ddaear fel llais swynwr, a’th ymadrodd a hustyng o’r llwch. º
5A thyrfa dy ddieithriaid fydd fel llwch man, a thyrfa’r cedyrn fel peiswyn yn myned heibio; ie, bydd yn ddisymwth ddiatreg. º
6Oddi wrth ARGLWYDD y lluoedd.y gofwyir trwy daranau, a thrwy ddaeargryn, a thwrf mawr, trwy gorwynt, a thyme sti, a fflam dân ysol. º
7Yna y bydd tyrfa yr holl genhedloedd y rhai a ryfelant yn erbyn Ariel, fel breuddwyd gweledigaeth nos, sef y rhai oll a ymladdant yn ei herbyn hi a’i hamddiffynfa, ac a warchaeant arni. º
8Ie, bydd megis newynog a freuddwydio, ac wele ef yn bwyta; a phan ddeff-r6, gwag fydd ei enaid: ac megis y sychedig a freuddwydio, ac wele ef yn yfed, a phan ddeffro, wele ef yn ddiffygiol, a’i enaid yn chwennych diod: felly y bydd tyrfa yr holl genhedloedd a lueddant yn erbyn mynydd Seion. º
9Arefwch, a rhyfeddwch; bloeddiwch, a gwaeddwch: meddwasant, ac nid trwy win, penfeddwasant, ac nid trwy ddiod gadarn. º
10Canys tywalltodd yr ARGLWYDD arnoch ysbryd trymgwsg, ac a gaeodd eich llygaid chwi: eich proffwydi, a’ch penaethiaid, y gweledyddion, a orchuddiodd efe. º
11A gweledigaeth pob un ohonynt sydd i chwi fel geiriau llyfr seliedig, yr hwn os rhoddant ef at un a fedr ar lyfr, gan ddywedyd, Darllen hwn, atolwg: yna y dywed, Ni allaf; canys seliwyd ef. º
12Os rhoddir y llyfr at yr hwn ni fedr ar lyfr, gan ddywedyd, Darllen hwn,, atolwg: yna y dywed, Ni fedraf ar lyfr. º
13Am hynny y dywedodd yr AR¬GLWYDD, Oherwydd bod y bobl hyn yn nesau ataf a’u genau, ac yn fy anrhydeddu a’u gwefusau, a phellhau eu calon oddi wrthyf, a bod eu hofn tuag ataf fi wedi ei ddysgu allan o athrawiaeth dynion; º
14Am hynny wele fi yn myned rhagof i wneuthur yn rhyfedd ymysg y bobl hyn, sef gwyrthiau a rhyfeddod; canys difethir doethineb eu doethion hwynt, a dealt eu rhai deallgar hwynt a ymguddia. º
15Gwae y rhai a ddyfngeisiant i guddio eu cyngor oddi wrth yr ARGLWYDD, ac y mae eu gweithredoedd mewn tywyllwch, ac a ddywedant, Pwy a’n gwêl ni? a phwy a’n hedwyn? º
16Diau fel clai crochenydd y cyfrifir eich trofeydd chwi. Canys a ddywed y gwaith am y gweithydd, Ni’m gwnaeth i? neu a ddywed y petti a luniwyd am yr hwn a’i lluniodd, Nid yw ddeallus? º
17Onid ychydig bach fydd eto hyd oni throir Libanus yn ddoldir, a’r doldir a gyfrifir yn goed? º
18A’r dydd hwnnw y rhai byddar a glywant eiriau y llyfr, a llygaid y deillion. a welant allan o niwi a thywyllwch., º
19A’r rhai llariaidd a chwanegaat lawenychu yn yr ARGLWYDD; a’r dynion tlodion a ymhyfrydant yn Sanct Israel. º
20Canys darfu am yr ofnadwy, a difethwyd y gwatwarus, a’r rhai oll a wyliant am anwiredd a dorrir ymaith, º
21Y rhai a wnânt ddyn yn droseddwr oherwydd gair, ac a osodant faglau i’r hwn a geryddo yn y porth, ac a wnânt i’r cyfiawn wyro am beth coeg. º
22Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, yr hwn a waredodd Abraham, am dy Jacob, Weithian ni chywilyddir Jacob, ac ni lasa ei wyneb ef. º
23Eithr pan welo efe ei feibion, gwaith fy nwylo, o’i fewn, hwy a sancteiddiant fy enw, ie, sancteiddiant Sanct Jacob, ac a ofnant DDUW Israel. º
24A’r rhai cyfeiliornus o ysbryd a ddysgant ddeall, a’r grwgnachwyr a ddysgant addysg.