Llyfr Eseia 29:22
Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, yr hwn a waredodd Abraham, am dy Jacob, Weithian ni chywilyddir Jacob, ac ni lasa ei wyneb ef. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Joshua 24:2A dywedodd Josua wrth yr holl bobl, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel; Tu hwnt i’r afon y trigodd eich tadau chwi gynt, sef Terah tad Abraham, a thad Nachor: a hwy a wasanaethasant dduwiau dïeithr.
Isaiah 41:8Eithr ti, Israel, fy ngwas ydwyt ti, Jacob yr hwn a etholais, had Abraham fy anwylyd. º
Isaiah 44:21Meddwl hyn, Jacob ac Israel; canys fy ngwas ydwyt ti; lluniais di, gwas i. mi ydwyt; Israel, ni’th anghofir gennyf. º
Isaiah 45:25Yn yr ARGLWYDD y cyfiawnheir, ac yr ymogonedda holl had Israel.
Isaiah 49:7Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Gwaredydd Israel, a’i Sanct, wrth y dirmygedig o enaid, wrth yr hwn sydd ffiaidd gan y genedl, wrth was llywodraethwyr; Brenhinoedd a welant, ac a gyfodant; tywysogion hefyd a ymgrymant, er mwyn yr ARGLWYDD, yr hwn sydd ffyddlon, Sanct Israel, ac efe a’th ddewisodd di. º
Isaiah 51:11Am hynny y dychwel gwaredigion yr ARGLWYDD, a hwy a ddeuant i Seion a chanu, ac a llawenydd tragwyddol as-eu pennau: goddiweddant lawenydd a-hyfrydwch; gofid a griddfan a ffy ymaith. º