Llyfr Eseia 44:8
Nac ofnwch, ac nac arswydwch; onid 6r hynny o amser y traethais i ti, ac y mynegais? a’m tystion ydych chwi. A oes Duw ond myfi? ie, nid oes Duw: nid adwaen i yr un. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 28:13Ac wele yr Arglwydd yn sefyll arni: ac efe a ddywedodd, Myfi yw Arglwydd Dduw Abraham dy dad, a Duw Isaac; y tir yr wyt ti yn gorwedd arno, i ti y rhoddaf ef, ac i’th had.
Genesis 48:19A’i dad a ommeddodd, ac a ddywedodd, Mi a wn, fy mab, mi a wn: bydd hwn hefyd yn bobl, a mawr fydd hwn hefyd, ond yn wir ei frawd ieuangaf fydd mwy nag ef, a’i had ef fydd yn llïaws o genhedloedd.
Leviticus 26:1Duw yn addaw cofio y rhai edifarhânt. Na wnewch eilunod i chwi, ac na chodwch i chwi ddelw gerfiedig, na cholofn, ac na roddwch ddelw faen yn eich tir i ymgrymu iddi: canys myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi.
Deuteronomy 4:35Gwnaethpwyd i ti weled hynny, i wybod mai yr Arglwydd sydd Dduw, nad oes neb arall ond efe.
Deuteronomy 28:1Melldithion am anufudd-dod. Ac os gan wrandaw y gwrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw, i gadw ac i wneuthur ei holl orchymynion ef, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti heddyw; yna yr Arglwydd dy Dduw a’th esyd yn uwch na holl genhedloedd y ddaear.
Deuteronomy 32:31Canys nid fel ein Craig ni y mae eu craig hwynt; a bydded ein gelynion yn farnwyr.