Llyfr Eseia 45:12
Myfi a wneuthum y ddaear, ac a greais ddyn ami: myfi, ie, fy nwylo i a estynasant y nefoedd, ac a orchmynnais eu holl luoedd. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 1:26¶ Duw hefyd a ddywedodd, Gwnawn ddyn ar ein delw ni, wrth ein llun ein hunain: ac arglwyddiaethant ar bysg y môr, ac ar ehediad y nefoedd, ac ar yr anifail, ac ar yr holl ddaear, ac ar bob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear.
Nehemiah 9:6Ti yn unig wyt ARGLWYDD: ti a wnaethost y nefoedd, nefoedd y neffoedd, a’u holl luoedd hwynt, y ddaear a’r hyn oll sydd arni, y moroedd a’r hyn oll sydd ynddynt; a thi sydd yn eu cynnal hwynt oll; a llu y nefoedd sydd yn ymgrymu i ti.
Isaiah 40:12, Pwy a fesurodd y dyfroedd yn ei ddwrn, ac a fesurodd y nefoedd a’i rychwant, ac a gymhwysodd bridd y ddaear mewn mesur, ac a bwysodd y mynyddoedd mewn pwysau, a’r bryniau mewn cloriannau? º
Isaiah 40:26Dyrchefwch eich llygaid i fyny, ac edrychwch pwy a greodd y rhai hyn, a ddwg eu llu hwynt allan mewn rhifedi: efe a’u geilw hwynt oll with eu henwau; gan arnlder ei rym ef, a’i gadarn allu, ni phalla un. º
Isaiah 42:5Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW, creawdydd y nefoedd a’i hestyn-" nydd; lledydd y ddaear a’i chnwd; rhoddydd anadl i’r bobl arni, ac ysbryd i’r rhai a rodiant ynddi: º
Isaiah 45:18Canys fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD, Creawdydd y nefoedd, y Diny ei hun a luniodd y ddaear, ac a’i gwnaeth;; efe a’i sicrhaodd hi, ni chreodd hi yn ofer, i’w phreswylio y lluniodd hi: Myfi yw yr ARGLWYDD, ac nid neb amgen. ‘ º