Llyfr Eseia 45
1FEL hyn y dywed yr ARGLWYDD wrth ei eneiniog, wrth Cyrus, yr hwn yr ymeflais i yn ei ddeheulaw,,i i ddarostwng cenhedloedd o’i flaen ef: a mi a ddatodaf lwynau brenhinoedd; i agoryd y dorau o’i flaen ef; a’r pyrth ni chaeir: º
2Mi a af o’th flaen di, ac a unionaf y gwyrgeimion; y dorau pres a dorraf, a’r barrau heyrn a ddrylliaf: º
3Ac a roddaf i ti drysorau cuddiedig, a chuddfeydd dirgel, fel y gwypech mai myfi yr ARGLWYDD, yr hwn a’th alwodd erbyn dy enw, yw Duw Israel. º
4Er mwyn Jacob fy ngwas, ac Israel fy etholedig, y’th elwais erbyn dy enw: mi a’th gyfenwais, er na’m hadwaenit. º
5Myfi ydwyf yr ARGLWYDD, ac nid; arall, nid oes Duw ond myfi; gwregysais di, er na’m hadwaenit: º
6Fel y gwvpont o godiad haul, act o’r gorllewin, nad neb ond myfi: myfi yw yr ARGLWYDD, ac nid arall:;’ º
7Yn llunio goleuni, ac yn creu tywyllwch; yn gwneuthur llwyddiant, ac yn creu drygfyd: myfi yr ARGLWYDD sydd yn gwneuthur hyn oll. ‘ º
8Defnynnwch, nefoedd, oddi uchod, a thywallted yr wybrennau gyfiawnder; ymagored y ddaear, ffrwythed iachawdwriaeth a chyfiawnder, cyd-darddant: myfi yr ARGLWYDD a’u creais. º
9Gwae a ymrysono â’i Luniwr. Ymrysoned priddell a phriddellau y ddaear. A ddywed y clai wrth ei luniwr, Both a wnei? neu, Y mae dy waith heb ddwylo iddo? º
10Gwae a ddywedo wrth ei dad, Beth a genhedii? neu wrth y wraig, Beth a esgoraist? º
11Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Sanct Israel, a’i Luniwr, Gofynnwch i mi y pethau a ddaw am fy meibion, a gorchmynnwch fi am waith fy nwylo. º
12Myfi a wneuthum y ddaear, ac a greais ddyn ami: myfi, ie, fy nwylo i a estynasant y nefoedd, ac a orchmynnais eu holl luoedd. º
13Myfi a’i cyfodais ef mewn cyf iawnder, a’i holl ffyrdd a gyfarwyddaf; efe a adeilada fy ninas, efe a ollwng fy ngharcharorion, heb na gwerth na gobrwy, medd ARGLWYDD y lluoedd. º
14Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Llafur yr Aifft, a marsiandiaeth Ethiopia, a’r Sabeaid hirion, a ddeuant atat ti, ac eiddot ti fyddant; ar dy ôl y deuant; mewn cadwyni y deuant trosodd, ac ymgrymant i ti; atat y gweddïant, gan ddywedyd, Yn ddiau ynot ti y mae Duw, ac nid oes arall, nac oes Duw. º
15Ti yn ddiau wyt DDUW yn ymguddio, O DDUW Israel yr Achubwr! º
16Cywilyddir a gwaradwyddir hwynt oll; seiri delwau a ânt ynghyd i waradwydd. º
17Israel a achubir yn yr ARGLWYDD a iachawdwriaeth dragwyddol: ni’ch cywilyddir ac ni’ch gwaradwyddir byth byth;oedd. º
18Canys fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD, Creawdydd y nefoedd, y Diny ei hun a luniodd y ddaear, ac a’i gwnaeth;; efe a’i sicrhaodd hi, ni chreodd hi yn ofer, i’w phreswylio y lluniodd hi: Myfi yw yr ARGLWYDD, ac nid neb amgen. ‘ º
19Ni leferais mewn dirgelwch, mewn man tywyll o’r ddaear; ni ddywedais wrth had Jacob, Ceisiwch fi yn ofer.-Myfi yr ARGLWYDD wyf yn llefara. cyfiawnder, ac yn mynegi pethau uniawn. º
20Ymgesglwch, a deuwch; cydnesewch, rai dihangol y cenhedloedd; nid oes gwybodaeth gan y rhai a ddyrchafant goed eu cerfddelw, ac a weddïant dduw ni all achub. ‘. º
21M.ynegwch,anesewchhwynt;cydymgynghorant hefyd; pwy a draethodd hyn er cynt? pwy a’i mynegodd er y pryd hwnnw? onid myfi yr ARGLWYDD? ac nid oes Duw arall ond myfi; yn DDUW cyfiawn, ac yn achubydd; nid oes ondr myfi., ‘.’’ º
22Trowch eich wynebau ataf fi, holl gyrrau y ddaear, fel y’ch achuber: canys niyfi wyf DDUW, ac nid neb arall. º
23I mi fy hun y tyngais, aeth y gair o’m genau mewn cyfiawnder, ac m ddychwel, Mai i mi y plyga pob glin, y twng pob tafod. º
24Yn ddiau yn yr ARGLWYDD, medd un, y mae i mi gyfiawnder a nerth; ato ef y deuir; a chywilyddir pawb a ddigiant wrtho. º
25Yn yr ARGLWYDD y cyfiawnheir, ac yr ymogonedda holl had Israel.