Llyfr Eseia 46:2
Gostyngant, cydgrymant: ni allent achub y llwyth, ond aethant mewn caethiwed eu hunain. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Judges 18:17A’r pumwr, y rhai a aethent i chwilio’r wlad, a esgynasant, ac a aethant i mewn yno; ac a ddygasant ymaith y. ddelw gerfiedig, a’r effod, a’r teraffim, a’r ddelw doddedig: a’r offeiriad oedd yn sefyll wrth ddrws y porth, gyda’r chwe channwr oedd wedi ymwregysu ag arfau rhyfel, º
2 Samuel 5:21Ac yno y gadawsant hwy eu delwau; a Dafydd a’i wŷr a’u llosgodd hwynt.
Isaiah 37:12A waredodd duwiau y cenhedloedd hwynt, y rhai a ddarfu i’m tadau eu dinistrio, sef Gosan, a Haran, a Reseff, a meibion Eden, y rhai oedd o fewn Telassar? º
Isaiah 44:17A’r rhan arall yn dduw y gwna, yn ddelw gerfiedig iddo; efe a ymgryma iddo, ac a’i haddola, ac a weddïa arno, ac a ddywed, Gwared fi; canys fy nuw ydwyt. º
Jeremiah 43:12A mi a gyneuaf dân yn nhai duwiau yr Aifft, ac efe a’u llysg hwynt, ac a*u caethgluda hwynt; ac efe a ymwisg a gwlad yr Aifft fel y gwisg bugail ei ddillad: ac efe a â allan oddi yno mewn heddwch. º
Hosea 10:5Preswylwyr Samaria a ofnant oher¬wydd lloeau Beth-afen; canys ei bobl a alara drosto, a’i offeiriaid y rhai a lawenychant ynddo, o achos ei ogoniant, am iddo ymado oddi wrtho ef.