The Bible Software
Llyfr Eseia · Beibl (1620)

Llyfr Eseia 46

1CRYMODD Bel, plygodd Nebo; eu delwau oedd ar fwystfilod; ac ai anifeiliaid: eich dud a lwythwyd yn drwm; llwyth ydynt i’r diflygiol. º

2Gostyngant, cydgrymant: ni allent achub y llwyth, ond aethant mewn caethiwed eu hunain. º

3tŷ Jacob, gwrandewch arnaf fi, a holl weddill tŷ Israel, y rhai a dducpwyd gennyf o’r groth, ac a arweddwyd o’r bru: º

4Hyd henaint hefyd myfi yw; ie, royfi a’ch dygaf hyd oni benwynnoch: gwneuthum, arweddaf hefyd, ie, dygaf, a gwaredaf chwi. º

5I bwy y’m gwnewch yn debyg, ac y’m cystedlwch, ac y’m cyffelybwch, fel y byddom debyg? º

6Hwy a wastraffant aur o’r pwrs, ac a bwysant arian mewn dorian, a gyflogant eurych, ac efe a’i gweithia yn dduw; gostyngant, ac ymgrymant. º

7Dygant ef ar ysgwyddau, dygant ef, ac a’i gosodant yn ei le, ac efe a saif; ni syfl o’i le: os llefa un arno, nid etyb, ac nis gwared ef o’i gystudd. º

8Cofiwch hyn, a byddwch wŷr; atgofiwch, droseddwyr. º

9Cofiwch y pethau gynt eriofid; canys myfi ydwyf DDUW, ac nid neb airall; Duw ydwyf, ac heb fy math; º

10Yn mynegi y diwedd o’r dechreuad, ac er cynt yr hyn ni wnaed eto, yn dywedyd, Fy nghyngor a saif, a’m holl ewyllys a wnaf: º

11Yn galw aderyn o’r dwyrain,< y gŵr a wna fy nghyngor o wlad bell: dywedais, a mi a’i dygaf i ben; mi a’i lluniais, a mi a’i gwnaf. º

12Gwrandewch arnaf fi, y rhai cedyrn galon, y rhai pell oddi wrth gyfiawnder: º

13Neseais fy nghyfiawnder; ni bydd bell, a’m hiachawdwriaeth nid erys: rhoddaf hefyd iachawdwriaeth yn Seion i’m gogoniant Israel.

← Llyfr Eseia 45Read In The App, Free →Llyfr Eseia 47 →

Study Llyfr Eseia 46

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566