Llyfr Eseia 50:2
Paham, pan ddeuthum, nad oedd neb i’m derbyn? pan elwais, nad atebodd neb? Gan gwtogi a gwtogodd fy llaw, fel na allai ymwared? neu onid oes ynof north i achub? wele, a’m cerydd y sychaf y môr, gwneuthum yr afonydd yn ddiffeithwch: eu pysgod a ddrewant o eisiau dwfr, ac a fyddant feirw o syched. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
3Gwisgaf y nefoedd a thywyllwch, a gosodaf sachliain yn do iddynt. º
Cross References
Genesis 18:14A fydd dim yn anhawdd i’r Arglwydd? Ar yr amser nodedig y dychwelaf attat, ynghylch amser bywiolaeth, a mab fydd i Sarah.
Exodus 7:21A’r pysgod, y rhai oeddynt yn yr afon, a fuant feirw; a’r afon a ddrewodd, ac ni allai yr Aiphtiaid yfed dwfr o’r afon; a gwaed oedd trwy holl wlad yr Aipht.
Exodus 14:29Ond meibion Israel a gerddasant ar dir sych y’nghanol y môr: a’r dyfroedd oedd yn fur iddynt, ar y llaw ddehau, ac ar y llaw aswy.
Joshua 3:16Yna y dyfroedd, y rhai oedd yn disgyn oddi uchod, a safasant; cyfodasant yn bentwr ym mhell iawn oddi wrth y ddinas Adam, yr hon sydd o ystlys Saretan: a’ r dyfroedd y rhai oedd yn disgyn i fôr y rhos, sef i’r môr heli, a ddarfuant, ac a dorrwyd ymaith. Felly y bobl a aethant drosodd ar gyfer Jericho.
Psalms 106:9Yr hyn a amododd efe ag Abraham, a’i lw i Isaac;
Psalms 114:3O godiad haul hyd ei fachludiad, moliannus yw enw yr ARGLWYDD.