The Bible Software
Llyfr Eseia · Beibl (1620)

Llyfr Eseia 50

1FEL hyn y dywed yr ARGLWYDD, Pa le y mae llythyr ysgar eich mam, trwy yr hwn y gollyngais hi ymaith? neu pwy o’m dyledwyr y gwerthais chwi iddo? Wele, am eich anwireddau yr ymwerthasoch, ac am eich camweddau y gollyngwyd ymaith eich mam. º

2Paham, pan ddeuthum, nad oedd neb i’m derbyn? pan elwais, nad atebodd neb? Gan gwtogi a gwtogodd fy llaw, fel na allai ymwared? neu onid oes ynof north i achub? wele, a’m cerydd y sychaf y môr, gwneuthum yr afonydd yn ddiffeithwch: eu pysgod a ddrewant o eisiau dwfr, ac a fyddant feirw o syched. º

3Gwisgaf y nefoedd a thywyllwch, a gosodaf sachliain yn do iddynt. º

4Yr Arglwydd DDUW a roddes i mi dafod y dysgedig, i fedru roewn pryd lefaru gair wrth y diffygiol: deffry fi bob bore, deffry i mi glust i glywed fel y dysgedig. º

5Yr Arglwydd DDUW a agorodd fy nghlust, a minnau ni wrthwynebais, ac ni chiliais yn fy ôl. º

6Fy nghorff a roddais i’r curwyr, a’m cflrnau i’r rhai a dynnai y blew: ni chuddia s fy wyneb oddi wrth waradwydd a phoeredd. º

7Oherwydd yr Arglwydd DDUW a’na cymorth; am hynny ni’m cywilyddir: am hynny gosodais fy wyneb fel callestr, a gwn na’m cywilyddir. º

8Agos yw yr hwn a’m cyfiawnha; pwy a ymryson â mi? safwn ynghyd: pwy yw fy ngwrthwynebwr? nesaed ataf. º

9Wele, yr Arglwydd DDUW a’m cynorthwya; pwy yw yr hwn a’m bwrw yn euog? wele, hwynt oll a heneiddiant fel dilledyn; y gwyfyn a’u hysa hwynt. º

10Pwy yn eich mysg sydd yn ofni yr ARGLWYDD, yn gwrando ar lais ei was ef, yn rhodio mewn tywyllwch, ac heb lewyrch iddo? gobeithied yn enw yr AR¬GLWYDD, ac ymddirieded yn ei DDUW. º

11xxx Wele, chwi oll y rhai ydych yn (Synnau tân, ac yn eich amgylchu eich hunain a gwreichion; rhodiwch wrth lewyrch eich tân, ac wrth y gwreichion a gyneuasoch. O’m llaw i y bydd hyn i chwi; mewn gofid y gorweddwch.

← Llyfr Eseia 49Read In The App, Free →Llyfr Eseia 51 →

Study Llyfr Eseia 50

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566