Llyfr Eseia 59:10
Palfalasom fel deillion a’r pared, ie, fel rhai heb lygaid y palfalasom: tramgwyddasom ar hanner dydd fel y cyfnos, oeddem mewn lleoedd anghyfannedd fel rhai meirw. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Deuteronomy 28:29Byddi hefyd yn ymbalfalu ganol dydd fel yr ymbalfalai y dall yn y tywyllwch; ac ni lwyddi yn dy ffyrdd: a dïau y byddi orthrymmedig ac anrheithiedig byth, ac ni bydd a’ th waredo.
Proverbs 4:19Eithr ffordd y drygionus sydd fel y tywyllwch: ni wyddant wrth ba beth y tramgwyddant.
Jeremiah 13:16Rhoddwch ogoniant i’r ARGLWYDD eich Duw, cyn iddo ef ddwyn tywyllwch, a chyn i chwi daro eich traed wrth y mynyddoedd tywyll; a thra fyddoch yn disgwyl am oleuni, iddo ef ei droi yn gysgod angau, a’i wneuthur yn dywyllwch.
John 11:9Yr Iesu a atebodd, Onid oes deuddeg awr o’r dydd? os rhodia neb y dydd, ni thramgwydda, am ei fod yn gweled goleuni’r byd hwn:
John 12:40Efe a ddallodd eu llygaid, ac a galedodd eu calon; fel na welent â’u llygaid, a deall â’u calon, ac ymchwelyd ohonynt, ac i mi en hiacháu hwynt.