Llyfr Eseia 59
1WELE, ni fyrhawyd llaw yr.ARGLWYDD, fel na allo achub; ac ni thrymhaodd ei glust ef, fel na allo glywed: º
2Eithr eich anwireddau chwi a ysgarodd rhyngoch chwi a’ch Duw, a’cli pechodau a guddiasant ei wyneb oddi wrthych, fel na chlywo. º
3Canys eich dwylo a halogwyd a gwaed, a’ch bysedd a chamwedd: eich gwefusau a draethasant gelwydd, eich tafod a fyfyriodd anwiredd. º
4Nid oes a alwo am gyfiawnder, nac a ddadlau dros y gwirionedd: y maent yn gobeithio mewn gwagedd, ac yn dywedyd celwydd; yn beichiogi ar flinder, ac yn esgor ar anwiredd. º
5Wyau asb a ddodwasant, a gweoedd y pryf copyn a weant: yr hwn a fwyty o’u hwyau a fydd farw, a’r hwn a sathrer a dyr allan yn wiber. º
6Eu gweoedd hwy ni byddant yn wisgoedd, ac nid ymddilladant a’u gweithredoedd: eu gweithredoedd ydynt weithredoedd anwiredd, a gwaith trawster sydd yn eu dwylo. º
7Eu traed a redant i ddrygioni, a hwy a frysiant i dywallt gwaed gwinon: eu meddyhau sydd feddyliau anwir; distryw a dinistr sydd ar eu ffyrdd hwynt. º
8Ffordd heddwch nid adwaenant; ac nid oes gyfiawnder yn eu llwybrau: gwnaethant iddynt lwybrau ceimion: pwy bynnag a rodio yno, nid edwyn heddwch. º
9Am hynny y ciliodd barnedigaeth oddi wrthynz, ac ni’n goddiweddodd cyfiawnder: disgwyliasom am oleuni, ac wele dywyllwch; am ddisgleirdeb, ac yn y fagddu yr ydym yn rhodio. º
10Palfalasom fel deillion a’r pared, ie, fel rhai heb lygaid y palfalasom: tramgwyddasom ar hanner dydd fel y cyfnos, oeddem mewn lleoedd anghyfannedd fel rhai meirw. º
11Nym oll a ruasom fel eirth, a chan riddfan y gnddfanasom fel colomennod: disgwyliasom am farn, ac nid oes dim: am iachawdwnaeth, ac ymbellhaodd oddi wrthym. º
12Canys amlhaodd ein camweddau ger dy fron, a thystiolaethodd ein pechodau i’n herbyn-.ohwwydd ein camwedd¬au sydd gyda ni; a’n hanwireddau, ni a’u hadwaenom: º
13Camweddu, a dywedyd celwydd yn erbyn yr ARGLWYDD, a chilio oddi ar ôl ein Duw, dywedyd trawster ac anufudd-dod, myfyrio a thraethu o’r galon eiriau gau. º
14Barn hefyd a droed yn ei hôl, a chyfiawnder a safodd o hirbell: canys gwirionedd a gwympodd yn yr heol, ac uniondeb ni all ddyfod i mewn. º
15Ie, gwirionedd sydd yn pallu, a’r hwn sydd yn cilio oddi wrth ddrygioni a’i gwna ei hun yn ysbail: a gwelodd yr ARGLWYDD hyn, a drwg oedd yn ei olwg nad oedd barn. º
16Gwelodd hefyd nad oedd gŵr, a rhyfeddodd nad oedd eiriolwr: am hynny ei fraich a’i hachubodd, a’i gyfiawnder ei hun a’i cynhaliodd. º
17Canys efe a wisgodd gyfiawnder fel llurig, a helm iachawdwriaeth am ei ben; ac a wisgodd wisgoedd dial yn ddillad; ie, gwisgodd sel fel cochl. º
18Yn ôl y gweithredoedd, ie, yn eu hôl hwynt, y tâl efe. llid i’w wrthwynebwyr, taledigaeth i’w elynion; taledigaeth i’r ynysoedd a dal efe. º
19Felly yr ofnant enw yr ARGLWYDD o’r gorilewin, a’i ogoniant ef o godiad haul. Pan ddelo y gelyn i mewn fel afon, Ysbryd yr ARGLWYDD a’i hymlid ef ymaith.; º
20Ac i Seion y daw y Gwaredydd, ac i’r rhai a droant oddi wrth anwiredd yn Jacob, medd yr ARGLWYDD. º
21A minnau, dyma fy nghyfamod â hwynt, medd yr ARGLWYDD: Fy ysbryd yr hwn sydd arnat, a’m geiriau y rhai a osodais yn dy enau, ni chiliant o’th enau, nac o enau dy had, nac o enau had dy had, medd yr ARGLWYDD, o hyn allan byth.