Llyfr Eseia 6:3
A llefodd y naill wrth y llall, ac a ddywedodd, Sanct, Sanct, Sanct, yw AR¬GLWYDD y lluoedd, yr holl ddaear sydd lawn o’i ogoniant ef.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
4A physt y rhiniogau. a symudasant gan lef yr hwn oedd yn llefain, a’r tŷ a lanwyd gan fwg.
Cross References
Exodus 15:20¶ A Miriam y brophwydes, chwaer Aaron, a gymmerodd dympan yn ei llaw, a’r holl wragedd a aethant allan ar ei hol hi, â thympanau ac â dawnsiau.
Ezra 3:11A hwy a gydganasant, wrth foliannu ac wrth glodfori yr ARGLWYDD, mai da oedd, mai yn dragywydd yr ydoedd ei drugaredd ef ar Israel. A’r holl bobl a floeddiasant â bloedd fawr, gan foliannu yr ARGLWYDD, am sylfaenu tŷ yr ARGLWYDD.
Psalms 19:1I’r Pencerdd, Salm Dafydd, gwas yr ARGLWYDD yr hwn a lefarodd wrth yr ARGLWYDD eiriau y gân hon, yn y dydd y gwaredodd yr ARGLWYDD ef o law ei holl elynion, ac o law Saul: ac efe a ddywedodd, Caraf di, ARGLWYDD fy nghadernid.
Psalms 57:11Yn NUW yr ymddiriedais: nid ofnaf beth a wnêl dyn i mi.
Psalms 72:19Dy gyfiawnder hefyd, O DDUW, sydd uchel, yr hwn a wnaethost bethau mawrion: pwy, O DDUW, sydd debyg i ti?
Isaiah 11:9Ni ddrygant ac ni ddifethant yn holl fynydd fy sancteiddrwydd: canys y ddaear a fydd llawn o wybodaeth yr ARGLWYDD, megis y mae y dyfroedd yn toi y môr. º