The Bible Software
Llyfr Eseia · Beibl (1620)

Llyfr Eseia 6

1Yn y flwyddyn y bu farw y brenin Usseia, y gwelais hefyd yr AR¬GLWYDD yn eistedd ar eisteddfa uchel a dyrchafedig, a’i odre yn llenwi y deml.

2Y seraffiaid oedd yn sefyll oddi ar hynny: chwech adain ydoedd i bob un: â dwy y cuddiai ei wyneb, ac â dwy y cuddiai ei draed, ac â dwy yr ehedai.

3A llefodd y naill wrth y llall, ac a ddywedodd, Sanct, Sanct, Sanct, yw AR¬GLWYDD y lluoedd, yr holl ddaear sydd lawn o’i ogoniant ef.

4A physt y rhiniogau. a symudasant gan lef yr hwn oedd yn llefain, a’r tŷ a lanwyd gan fwg.

5Yna y dywedais, Gwae fi! canys darfu amdanaf; oherwydd gŵr halogedig ei wefusau ydwyf fi, ac ymysg pobl halogedig o wefusau yr ydwyf yn trigo: canys fy llygaid a welsant y brenin, ARGLWYDD y lluoedd.

6Yna yr ehedodd ataf un o’r seraffiaid, ac yn ei law farworyn a gymerasai efe oddi ar yr allor mewn gefel:

7Ac a’i rhoes i gyffwrdd â’m genau, ac a ddywedodd, Wele, cyffyrddodd hwn â’th wefusau, ac ymadawodd dy anwiredd, a glanhawyd dy bechod.

8Clywais hefyd lef yr ARGLWYDD yn dywedyd, Pwy a anfonaf? a phwy a â drosom ni? Yna y dywedais, Wele fi, anfon fi.

9Ac efe a ddywedodd, Dos, a dywed wrth y bobl hyn, Gan glywed clywch, ond na ddeellwch; a chan weled gwelwch, ond na wybyddwch.

10Brasa galon y bobl hyn, a thrymha eu clustiau, a chac eu llygaid, rhag iddynt weled â’u llygaid, a chlywed â clustiau, a deall â’u calon, a dychwelyd, a’u meddyginiaethu.

11Yna y dywedais. Pa hyd, ARGLWYDD? Ac efe a atebodd, Hyd oni anrheithier y dinasoedd heb drigiannydd, a’r tai heb ddyn, a gwneuthur y wlad yn gwbl anghyfannedd,

12Ac i’r ARGLWYDD bellhau dynion, a bod ymadawiad mawr yng nghanol y wlad.

13Ac eto bydd ynddi ddegwm, a hi a ddychwel, ac a borir; fel y llwyfen a’r dderwen, y rhai wrth fwrw eu dail y mae sylwedd ynddynt: felly yr had sanctaidd fydd ei sylwedd hi.

← Llyfr Eseia 5Read In The App, Free →Llyfr Eseia 7 →

Study Llyfr Eseia 6

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566