Llyfr Eseia 60:10
A meibion dieithr a adeiladant dy furiau, a’u brenhinoedd a’th wasanaeth¬ant; canys yn fy nig y’th drewais, ac o’m hewyllys da fy hun y tosturiais wrthyt. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Ezra 6:3Yn y flwyddyn gyntaf i’r brenin Cyrus y gosododd y brenin Cyrus orchymyn am dŷ DDUW o fewn Jerwsalem, Adeilader y tŷ, y fan lle yr aberthent aberthau, a gwnaer yn gadarn ei sylfeini; yn drigain cufydd ei uchder, ac yn drigain cufydd ei led:
Nehemiah 2:7Yna y dywedais wrth y brenin, O rhynga bodd i’r brenin, rhodder i mi lythyrau at y tywysogion o’r tu hwnt i’r afon, fel y trosglwyddont fi nes fy nyfod i Jwda;
Isaiah 12:1YNA y dywedi yn y dydd hwnnw, Molaf di, O ARGLWYDD: er i ti sorri wrthyf, dychwelir dy lid, a thi a’m cysuri. º
Isaiah 49:23Brenhinoedd hefyd fydd dy dadmaethod, a’u breninesau dy famaethod; crymant i ti a’u bwynebau tua’r llawr, a llyfant lwch dy draed; a chei wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD: canys ni chywilyddir y rhai a ddisgwyliant wrthyf fi. º
Isaiah 54:8Mewn ychydig sonant y cuddiais fy wyneb oddi wrthyt ennyd awr; ond a thrugaredd dragwyddol y trugarhaf wrthyt, medd yr ARGLWYDD dy Waredydd. º
Isaiah 60:3Cenhedloedd hefyd a rodiant at dy oleuni, a brenhinoedd at ddisgleirdeb dy gyfodiad. º