Llyfr Eseia 60:14
A meibion dy gystuddwyr a ddeuant atat yn ostyngedig: a’r rhai oll a’th ddiystyrasant a ymostyngant wrth wadnau dy draed, ac a’th alwant yn Ddinas yr ARGLWYDD, yn Seion Sanct Israel. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Psalms 87:3Trugarha wrthyf, ARGLWYDD: canys arnat y llefaf beunydd.
Isaiah 1:26Adferaf hefyd dy farnwyr, fel cynt, a’th gynghoriaid megis yn y dechrau: wedi hynny y’th elwir yn Ddinas cyfiawn¬der, yn Dref ffyddlon.
Isaiah 14:2Y bobl hefyd a’u cymer hwynt, ac a’u dygant i’w lle, a thŷ Israel a’u meddianna hwynt yn nhir yr ARGLWYDD, yn weision ac yn forynion: a hwy a gaethiwant y rhai a’u caethiwodd hwythau, ac a lywodraethant ar eu gorthrymwyr. º
Isaiah 49:23Brenhinoedd hefyd fydd dy dadmaethod, a’u breninesau dy famaethod; crymant i ti a’u bwynebau tua’r llawr, a llyfant lwch dy draed; a chei wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD: canys ni chywilyddir y rhai a ddisgwyliant wrthyf fi. º
Jeremiah 16:19Oarglwydd, fy nerth a’m cadernid, a’m noddfa yn nydd blinder; atat ti y daw y Cenhedloedd o eithafoedd y ddaear, ac a ddywedant, Diau mai celwydd a ddarfu i’n tadau ni ei etifeddu, oferedd, a phethau heb les ynddynt. º
Revelation 3:9Wele, mi a wnaf iddynt hwy o synagog Satan, y rhai sydd yn dywedyd eu bod yn Iddewon, ac nid ydynt, ond dywedyd celwydd y maent; wele, meddaf, gwnaf iddynt ddyfod ac addoli o flaen dy draed, a gwybod fy mod i yn dy garu di.