Llyfr Eseia 61:7
Yn lle eich cywilydd y cewch ddauddyblyg; ac yn lle gwaradwydd hwy a lawenychant yn eu rhan: am hynny yn y tir y meddiannant ran ddwbl; llawenydd tragwyddol fydd iddynt. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Deuteronomy 21:17Ond mab y gas yr hwn sydd gyntaf-anedig a gydnebydd efe, gan roddi iddo ef y ddeuparth o’r hyn oll a gaffer yn eiddo ef: o achos hwn yw dechreuad ei nerth ef; iddo y bydd braint y cyntaf-anedig.
Job 42:10Yna yr ARGLWYDD a ddychwelodd gaethiwed Job, pan weddïodd efe dros ei gyfeillion: a’r ARGLWYDD a chwanegodd yr hyn oll a fuasai gan Job yn ddauddyblyg.
Isaiah 35:10A gwaredigion yr ARGLWYDD a ddychwelant, ac a ddeuant i Seion a chaniadau, ac a llawenydd tragwyddol ar eu pen: goddiweddant lawenydd a hyfrydwch, a chystudd a galar a ffy ymaith.
Isaiah 51:11Am hynny y dychwel gwaredigion yr ARGLWYDD, a hwy a ddeuant i Seion a chanu, ac a llawenydd tragwyddol as-eu pennau: goddiweddant lawenydd a-hyfrydwch; gofid a griddfan a ffy ymaith. º
Isaiah 60:19Ni bydd yr haul i ti mwyach yn oleuni y dydd, a’r lleuad ni oleua yn llewyrch i ti: eithr yr ARGLWYDD fydd i ti yn oleuni tragwyddol, a’th DDUW yn ogoniant i ti. º
Zechariah 9:12Trowch i'r amddiffynfa, chwi garcharorion gobeithiol; heddiw yr ydwyf yn dangos y talaf i ti yn ddauddyblyg: