Llyfr Eseia 63:1
PWY yw hwn yn dyfod o Edom, yn goch ei ddillad o Bosra? hwn sydd hardd yn ei wisg, yn ymdaith yn amlder ei rym? Myfi, yr hwn a lefaraf mewn cyfiawnder, ac wyf gadarn i iacháu. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
2Paham yr ydwyt yn goch dy ddillad, a’th wisgoedd fel yr hwn a sathrai mewn gwinwryf? º
Cross References
Genesis 49:11Yn rhwymo ei ebol wrth y winwydden, a llwdn ei asyn wrth y bêr winwydden: golchodd ei wisg mewn gwin, a’i ddillad y’ngwaed y grawnwin.
1 Chronicles 1:44A phan fu farw Bela, y teyrnasodd yn ei le ef Jobab mab Sera o Bosra.
Psalms 45:3Canys nid â’u cleddyf eu hun y goresgynasant y tir, nid eu braich a barodd iachawdwriaeth iddynt; eithr dy ddeheulaw di, a’th fraich, a llewyrch dy wyneb, oherwydd i ti eu hoffi hwynt.
Psalms 65:6Chwiliant allan anwireddau; gorffennant ddyfal chwilio: ceudod a chalon pob un ohonynt sydd ddofn.
Song of Solomon 3:6Pwy yw hon sydd yn dyfod i fyny o’r anialwch megis colofnau mwg, wedi ei pherarogli â myrr, ac â thus, ac â phob powdr yr apothecari?
Song of Solomon 8:5Pwy yw hon sydd yn dyfod i fyny o’r anialwch, ac yn pwyso ar ei hanwylyd? Dan yr afallen y’th gyfodais: yno y’th esgorodd dy fam; yno y’th esgorodd yr hon a’th ymddûg.