The Bible Software
Llyfr Eseia · Beibl (1620)

Llyfr Eseia 63

1PWY yw hwn yn dyfod o Edom, yn goch ei ddillad o Bosra? hwn sydd hardd yn ei wisg, yn ymdaith yn amlder ei rym? Myfi, yr hwn a lefaraf mewn cyfiawnder, ac wyf gadarn i iacháu. º

2Paham yr ydwyt yn goch dy ddillad, a’th wisgoedd fel yr hwn a sathrai mewn gwinwryf? º

3Sethrais y gwinwryf fy hunan, ac o’r bobl nid oedd un gyda mi, canys mi a’u sathraf hwynt yn fy nig, ac a’u mathraf hwynt yn fy llidiowgrwydd; a’u gwaed hwynt a daenellir ar fy nillad, a’m holl wisgoedd a lychwinaf. º

4Canys dydd dial sydd yn fy ngbalon, a blwyddyn fy ngwaredigion a ddaeth. º

5Edrychais hefyd, ac nid oedd gyn-orthwywr, rhyfeddais hefyd am nad oedd gynhaliwr: yna fy mraich fy hun a’m hachubodd, a’m llidiowgrwydd a’m cynhaliodd. º

6A mi a sathraf y bobl yn fy nig, ac a’u meddwaf hwynt yn fy llidiowgrwydd; a’u cadernid a ddisgynnaf i’r llawr. º

7Cofiaf drugareddau yr ARGLWYDD, a moliant Duw, yn ôl yr hyn oll a roddodd Duw i ni, ac amlder ei ddaioni i dŷ Israel, yr hyn a roddodd efe iddynt yn ôl ei dosturiaethau, ac yn ôl amlder ei drugareddau. º

8Canys efe a ddywedodd, Diau fy mhobl ydynt hwy, meibion ni ddywedant gelwydd; felly efe a aeth yn lachawdwr iddynt. º

9Yn eu holl gystudd hwynt efe a gystuddiwyd, ac angel ei gynddrychiol-deb a’u hachubodd hwynt; yn ei gariad ac yn ei drugaredd y gwaredodd efe hwynt: efe a’u dygodd hwynt, ac a’u harweiniodd yr holl ddyddiau gynt. º

10y Hwythau oeddynt wrthryfelgar, ac a ofidiasant ei Ysbryd sanctaidd ef: am hynny y trodd efe yn elyn iddynt, ac yr ymladdodd yn eu herbyn. º

11Yna y cofiodd efe y dyddiau gynt, Moses a’i bobl, gan ddywedyd, Mae yr hwn a’u dygodd hwynt i fyny o’r môr, gyda bugail ei braidd? mae yr hwn a osododd ei Ysbryd sanctaidd o’i fewn ef? º

12Yr hwn a’u tywysodd hwynt a de-heulaw Moses, ac a’i ogoneddus fraich, gan holiti y dyfroedd o’u blaen hwynt, i wneuthur iddo ei hun enw uigwyddol? º

13Yr hwn a’u harweirdodd.hwynt trwy y dyfnderau, fel march yn yr anialwch, fel na thramgwyddent? º

14Fel y disgyn anifail i’r dyffryn, y gwna Ysbryd yr ARGLWYDD iddo orffwys: felly y tywysaist dy bobl, i wneuthur i ti enw gogoneddus. º

15Edrych o’r nefoedd a gwêl o annedd dy sancteiddrwydd a’th ogoniant: mae dy sel a’th gadernid, lluosowgrwydd dy dosturiaethau a’th drugareddau tuag ataf fi? a ymataliasant? º

16Canys ti yw ein Tad ni, er nad edwyn Abraham ni, ac na’n cydnebydd Israel: ti, ARGLWYDD, yw ein Tad ni, ein Gwaredydd; dy enw sydd erioed. º

17Paham, ARGLWYDD, y gwnaethost i ni gyfeiliorni allan o’th ftyrdd? ac y caledaist ein calonnau oddi wrth dy ofn? Dychwel er mwyn dy weision, Hwythau dy etifeddiaeth... º

18Dros ychydig ennyd y aaeddiannodd dy bobl sanctaidd: ein gwrthwynebwyr a fathrasant dy gysegr di. º

19Nyni ydym eiddot ti: erioed ni buost yn arglwyddiaethu arnynt hwy; ac ni elwid dy enw arnynt.

← Llyfr Eseia 62Read In The App, Free →Llyfr Eseia 64 →

Study Llyfr Eseia 63

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566