Llyfr Eseia 63:10
y Hwythau oeddynt wrthryfelgar, ac a ofidiasant ei Ysbryd sanctaidd ef: am hynny y trodd efe yn elyn iddynt, ac yr ymladdodd yn eu herbyn. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 15:24A’r bobl a duchanasant yn erbyn Moses, gan ddywedyd, Beth a yfwn ni?
Exodus 23:21Gwylia rhagddo, a gwrando ar ei lais ef; na chyffroa ef: canys ni ddïoddef eich anwiredd: oblegid y mae fy enw ynddo ef.
Leviticus 26:17Ac a osodaf fy wyneb i’ch erbyn, a chwi a syrthiwch o flaen eich gelynion; a’ch caseion a feistrola arnoch; ffowch hefyd pan na byddo neb yn eich erlid.
Numbers 16:1Aaron, trwy arogl-darthu, yn attal y pla. Yna Corah, mab Ishar, mab Cohath, mab Lefi; a Dathan ac Abiram, meibion Elïab, ac On mab Peleth, meibion Reuben, a gymmerasant wŷr:
Deuteronomy 9:7¶ Meddwl, ac nac anghofia, pa fodd y digiaist yr Arglwydd dy Dduw yn yr anialwch: o’r dydd y daethost allan o dir yr Aipht, hyd eich dyfod i’r lle hwn, gwrthryfelgar fuoch yn erbyn yr Arglwydd.
Deuteronomy 28:15¶ A bydd, oni wrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw, gan gadw a gwneuthur ei holl orchymynion ef a’i ddeddfau, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddyw; y daw arnat yr holl felldithion hyn, ac y’th oddiweddant.