Llyfr Eseia 63:11
Yna y cofiodd efe y dyddiau gynt, Moses a’i bobl, gan ddywedyd, Mae yr hwn a’u dygodd hwynt i fyny o’r môr, gyda bugail ei braidd? mae yr hwn a osododd ei Ysbryd sanctaidd o’i fewn ef? º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 14:22A meibion Israel a aethant trwy ganol y môr ar dir sych: a’r dyfroedd oedd yn fur iddynt, o’r tu dehau, ac o’r tu aswy.
Exodus 32:11A Moses a ymbiliodd ger bron yr Arglwydd ei Dduw, ac a ddywedodd, Paham, Arglwydd, yr ennyna dy ddigofaint yn erbyn dy bobl, y rhai a ddygaist allan o wlad yr Aipht, trwy nerth mawr, a llaw gadarn?
Numbers 11:17Canys disgynnaf, a llefaraf wrthyt yno: a mi a gymmeraf o’r yspryd sydd arnat ti, ac a’i gosodaf arnynt hwy; felly y dygant gyd â thi faich y bobl, fel na ddygech di ef yn unig.
Numbers 11:29A dywedodd Moses wrtho, Ai cenfigennu yr ydwyt ti drosof fi? O na byddai holl bobl yr Arglwydd yn brophwydi, a rhoddi o’r Arglwydd ei yspryd arnynt!
Deuteronomy 4:30Pan gyfyngo arnat, a digwyddo yr holl bethau hyn i ti, yn y dyddiau diweddaf, os dychweli at yr Arglwydd dy Dduw, a gwrandaw ar ei lais ef:
Nehemiah 9:20Dy ysbryd daionus hefyd a roddaist i’w dysgu hwynt, ac nid ateliaist dy fanna rhag eu genau, dwfr hefyd a roddaist iddynt yn eu syched.